English | Cymraeg
System Leadership Header Welsh

Cymdeithion

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn penodi carfan flynyddol o Gymdeithion, pob un ohonynt yn uwch arweinwyr addysgol gweithredol ar hyn o bryd. Mae’r Cymdeithion yn rhoi cyfleoedd i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gael mynediad at eu harbenigedd a’u gwybodaeth fel arweinwyr addysgol presennol, adnodd amhrisiadwy sy’n sicrhau bod llais y proffesiwn yn cael ei glywed yn ein holl waith cynllunio, gweithgarwch a myfyrio.

Mae gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol bellach garfannau lluosog o Gymdeithion sy’n symud ymlaen trwy fodel arweinyddiaeth system aeddfed ac maent yn cael effeithiau mesuradwy ar y system addysg y tu hwnt i’w sefydliadau eu hunain trwy:Hwyluso; Hyfforddi; Eiriolaeth; Gweithrediaeth; Porthgadw; Asiantaeth Newid; Symud; Gwellhad.

Mae’r Cymdeithion yn llywio ein gwaith, yn darparu cynrychiolaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn llywio polisi ac arfer trwy eu comisiynau ymchwiliad cydweithredol blynyddol.

A group of people posing for a photo

Arweinwyr Systemau ac Arweinyddiaeth Systemau: Adolygu’r Dystiolaeth

Mae arweinwyr / arweinyddiaeth system yn gysyniad cymhleth ac weithiau dryslyd.

Er ei fod yn ffocws i nifer o systemau addysg ledled y byd yn ystod y degawd diwethaf, nid oes diffiniad sefydlog o arweinwyr / arweinyddiaeth systemau. O ganlyniad, mae llawer o ddehongliadau o beth yw arweinwyr / arweinyddiaeth system, sut y caiff ei drin a phryd y gwyddom ei fod yn gweithio. Hyd yma, mae hyn wedi atal trafodaeth wybodus a hygyrch am natur – a dyfodol – arweinwyr systemau / arweinyddiaeth rhag digwydd yng Nghymru.

Er mwyn creu sylfaen dystiolaeth addas i lywio datblygiad arweinwyr / arweinyddiaeth systemau yng Nghymru, mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi comisiynu’r Athro Alma Harris, arbenigwr blaenllaw ar arweinyddiaeth addysgol, i adolygu’r llenyddiaeth academaidd a pholisi rhyngwladol ac argymell ffyrdd y gellir datblygu arweinwyr / arweinyddiaeth systemau ymhellach yng Nghymru.

SARWEINWYR SYSTEMAU AC ARWEINYDDIAETH SYSTEMAU: ADOLYGU’R DYSTIOLAETH

Cwrdd â'r Cymdeithion

A group of people posing for a photo
Carfan 5
A group of people posing for a photo. A picture of our new Associates who will form Cohort 6
Carfan 6
A group of people posing for a photo
Ffederasiwn y Cymdeithion

Comisiwn 1

Ein Galwad i Weithredu

Ym mis Mehefin 2018 gosodwyd comisiwn gan swyddogion Llywodraeth Cymru i Gymdeithion yng ngharfan 1, o’r enw Sut y gall arweinwyr alluogi cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n gwella llesiant ac yn sicrhau gwell canlyniadau i bawb?

Comisiwn 2

Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus?

Ym mis Mawrth 2019, gosodwyd comisiwn i’r Cymdeithion i archwilio Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus? Roedd y Cymdeithion eisiau cynhyrchu adroddiad a fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar y system, a fyddai’n ystyrlon i gynulleidfa eang ac a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r rheini o fewn y sector addysg.

Straeon Arweinyddiaeth

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer Bu Nia Miles, Pennaeth Mewnwelediad yn yr Academi Genedlaethol ar g…

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid Rwy’n cofio cyrraedd Ysgol y Strade, yn Llanelli…

Two roads diverged in a yellow wood

Two roads diverged in a yellow wood, And sorry I could not travel both And be one traveler, long I s…