Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi ymrwymo i ymhelaethu ar lais arweinyddiaeth o fewn y sector addysg er mwyn gweithredu newid cadarnhaol ar lefel polisi.
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r system addysg ers ei hymgorffori, yn bennaf drwy ei grŵp cyfeirio rhanddeiliaid a grëwyd yn 2018. Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid er mwyn cyflawni ei dyheadau , a’i nod yw cynnwys ein rhanddeiliaid ym mhob agwedd ar ein gwaith i ysgogi meddwl newydd a derbyn cefnogaeth a her gan y system addysg yn ei chyfanrwydd.
Trwy Ymgysylltu effeithiol â Rhanddeiliaid, nod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw:
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector gan gynnwys:
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Cysylltwch i ddarganfod mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol – ein gwaith, ein digwyddiadau, i drafod eich syniadau (waeth pa mor fawr neu fach), neu i ddarganfod sut y gallwn eich helpu a’ch cefnogi trwy post@agaa.cymru.
“Pleser ac anrhydedd o’r mwyaf yw bod yn Gadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae’r grŵp yn rhan allweddol o waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac yn cyfarfod bob hanner tymor i drafod gweithgareddau ymgysylltu, ymateb i ymgynghoriadau ac i rannu barn ac argymhellion i’r tîm. Ceir cynrychiolaeth eang o amrywiaeth o sectorau o fewn y grŵp a gallwch ymgyfarwyddo â nhw drwy eu ffotograffau a’u bywgraffiadau, cliciwch isod i ddysgu mwy. Mae hyn yn sicrhau fod llais pob sector yn cael ei glywed a’i ystyried o fewn gwaith y grŵp a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol i waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i sicrhau bod llais yr arweinyddiaeth yn cael ei glywed drwyddi draw. Os hoffech ddysgu mwy am waith y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid neu gymryd rhan, cysylltwch ag aelod o’r tîm ar post@agaa.cymru.”
Gareth Evans yw Cadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a Phennaeth Dros-Dro Ysgol Bro Teifi.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr a bod y cyntaf i glywed am gyfleoedd datblygu newydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau ymchwil a llawer mwy.