Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (Academi Arweinyddiaeth) yn rheoli diogelwch gwybodaeth i sicrhau bod asedau gwybodaeth yn cael eu diogelu’n briodol rhag amrywiaeth o fygythiadau megis camgymeriadau, twyll, difrod bwriadol, terfysgaeth, cribddeiliaeth, ysbïo diwydiannol, torri ar breifatrwydd, amharu ar wasanaethau, dwyn a thrychineb naturiol, boed yn fewnol neu’n allanol, yn fwriadol neu’n ddamweiniol.
Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth briodol, polisïau Llywodraeth Cymru a chanllawiau arfer gorau a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae gan yr Academi Arweinyddiaeth sicrwydd trydydd parti o’n systemau diogelwch gwybodaeth hefyd drwy’r ardystiad Hanfodion Seiber a Mwy.
Mae gan yr Academi Arweinyddiaeth ddyletswydd i gadw, gwella a rhoi cyfrif am yr holl wybodaeth a’r systemau gwybodaeth. Penodwyd aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg fel yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) a’r Prif Weithredwr yw’r Swyddog Diogelu Data (DPO).
Mae gwybodaeth yn ased corfforaethol, ac mae cofnodion yr Academi Arweinyddiaeth yn ffynonellau pwysig o wybodaeth weinyddol, dystiolaethol a hanesyddol. Maent yn hanfodol i’r sefydliad yn ei weithgareddau presennol ac yn y dyfodol ac at ddibenion atebolrwydd.
Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn creu, defnyddio, rheoli a dinistrio neu gadw’r cofnodion hynny yn unol â’r holl ofynion statudol.
Mae gwefan yr Academi Arweinyddiaeth (nael.cymru) yn cael ei chynnal gan DesignDough sy’n defnyddio gweinyddion gwe pwrpasol perfformiad uchel a gynhelir gan HPC o’r radd flaenaf, megis DigitalOcean.