Skip to main content
English | Cymraeg
A group of people posing for a photo

Ffederasiwn y Cymdeithion

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn deall bod arweinyddiaeth system effeithiol yn hanfodol i gefnogi’r gwaith o wella datblygiad arweinyddiaeth a dylanwadu ar addysgu a dysgu a gall fod yn rym cadarnhaol ar gyfer newid. Mae ein model Cydymaith blaenllaw yn cefnogi’r diwylliant o arwain systemau ac yn datblygu arweinwyr systemau ledled Cymru i ddylanwadu ar eraill ar wahanol lefelau o’r system.

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, mae Cymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dilyn profiad dysgu strwythuredig ac yn cyfrannu at gomisiwn mewn maes gwaith pwysig sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwella arweinyddiaeth addysgol. Ar ddiwedd y ddwy flynedd, cynigir y cyfle i’r Cymdeithion ymuno â Ffederasiwn y Cymdeithion i barhau â’u cysylltiad â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Prif nod Ffederasiwn y Cymdeithion yw gwella ansawdd arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy:

  • Arbenigedd a Phrofiad
  • Cryfhau Llais Arweinyddiaeth
  • Cydweithio a Rhwydweithio
  • Rhannu Gwybodaeth ac Ymchwil
  • Hyrwyddo safonau proffesiynol

Cwrdd â’r Cymdeithion

Mae aelodau Ffederasiwn y Cymdeithion yn arweinwyr addysgol gweithredol yng Nghymru sydd wedi cwblhau eu profiad dwy flynedd o arwain systemau wedi’i ariannu gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Maent yn chwarae rhan allweddol mewn galluogi perthynas waith cynhyrchiol rhwng yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r sector, gan gynrychioli llais yr arweinyddiaeth ym mhob rhan o waith y sefydliad.

A group of educational leaders sitting around a table and discussing

COMISIYNAU

Ein Galwad i Weithredu

Carfan 1

Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu’r weledigaeth o Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu?

Carfan 2

Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol yn y gwaith o ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru?

Carfan 3

Dogfennau

Ffederasiwn y Cymdeithion Cylch gorchwyl

Cohort 1