Skip to main content
English | Cymraeg
About Us Header Welsh

Amdano’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Sefydlwyd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (Academi Arweinyddiaeth) yn 2018, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Fel corff hyd braich, ei brif rôl yw cyflawni ei gyfrifoldebau yng nghyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru.

Ei brif bwrpas yw:

  • Cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg drwy ddarparu cydlyniad a sicrwydd ansawdd ar gyfer yr ystod o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael yng Nghymru.
  • Gweithredu fel arweinydd meddwl; datblygu, mynegi a gweithredu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru
  • Bod yn aelod uchel ei barch a gweithgar o’r haen ganol addysg, y pwynt cyswllt cyntaf i’r gweithlu addysgol o ran materion arweinyddiaeth.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn nodwedd ganolog o’r daith diwygio addysg a nodir yn Genhadaeth Ein Cenedl: Safonau uchel a dyheadau i bawb, lle y’i nodir gan Lywodraeth Cymru fel un o brif yrwyr Amcan 4: Addysgu ac Arweinyddiaeth o Ansawdd Uchel.

Gweler Llythyr Cylch Gwaith yr Academi Arweinyddiaeth 2022-2026

 

Gweledigaeth a Gwerthoedd

Trwy greu’r amodau sydd eu hangen i ysbrydoli arweinwyr, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cyfoethogi bywydau ein plant a’n pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog; yn unigolion iach a hyderus; cyfranwyr mentrus, creadigol; ac fel dinasyddion moesegol, gwybodus.

Vision and values poster Welsh

Ein pobl

A group photo of our Associates in Cohort 6
Cymdeithion
Dr Sue Davies profile photo
Aelodau'r Bwrdd