Mae ein proses sicrhau ansawdd yn cydnabod ac yn rhoi cymeradwyaeth i ddarpariaeth arweinyddiaeth sy’n bodloni’r safonau uchel ac anghenion gofynnol arweinwyr addysgol yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy broses gymeradwyo a monitro trylwyr dan arweiniad cyfoedion.
Mae arweinyddiaeth system effeithiol yn llywio hunan-welliant gyda gweithwyr proffesiynol yn cydweithio ac yn arwain y tu hwnt i’w sefydliad eu hunain, rhwng haenau ac ar draws sectorau ac mae hyn yn ganolog i’r gwaith yr ydym yn ei ddatblygu yng Nghymru drwy ein model Cymdeithion blaenllaw.
Mae ein gwaith Mewnwelediad yn cynnwys y Gyfres Mewnwelediad sy’n cyflwyno meddwl newydd, wedi’i lywio gan dystiolaeth ar ffurf comisiynau ymchwil, adolygiadau o lenyddiaethau a safbwyntiau academaidd a pholisi rhyngwladol, Lles – Rydym am i les arweinwyr addysgol gael ei flaenoriaethu ac yn systematig a gefnogir yng Nghymru a Datblygu’r Gweithlu – Rydym yn gweithio tuag at greu system lle mae rolau arwain yn ddeniadol ac arweinwyr yn cael eu cymell i aros a datblygu o fewn y proffesiwn.
Credwn bod rhaid i adnoddau ymarferol sydd â’r nod o helpu arweinwyr i ddatblygu eu hymarfer eu hunain fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Felly, mae’r adnoddau a gyhoeddir gennym yn cael eu llywio gan lenyddiaeth ymarferwyr a pholisi rhyngwladol – a phrofiad byw arweinwyr addysgol yng Nghymru.