Un o’n dibenion craidd yw cyfrannu at ddatblygu arweinwyr presennol ac uchelgeisiol ar draws y system addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cydlyniaeth ac ansawdd ar gyfer y ddarpariaeth arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael yng Nghymru.
Mae cymeradwyaeth gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dangos bod y ddarpariaeth wedi bodloni’r safonau uchel a nodir yn y meini prawf cymeradwyo drwy broses gam dan arweiniad cyfoedion trylwyr.
Mae cymeradwyo yn sicrhau arweinwyr bod y ddarpariaeth yn cael ei ategu gan dystiolaeth ryngwladol ar yr hyn sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i ddysgwyr.
Mae arweinwyr addysgol yng Nghymru’n gweithredu mewn amgylchiadau heriol, anrhagweladwy ac yn deall bod systemau, offer a meddwl arloesol yn hanfodol. Rydyn ni’n cefnogi arloesi drwy:
Cronfa Llwybr Arloesedd lle gellir datblygu darpariaeth arweinyddiaeth newydd trwy feddwl a gweithredoedd newydd.
Gweithdai Arloesedd Blynyddol i ysgogi meddwl a gweithredu arloesol ymhlith arweinwyr addysgol.