Sefydlwyd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (Academi Arweinyddiaeth) yn 2018, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Fel corff hyd braich, ei brif rôl yw cyflawni cyfrifoldebau a bennwyd yng nghyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru.
Ei brif bwrpas yw:
Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn elfen ganolog o’r daith o ddiwygio’r gyfundrefn addysg a nodir yn Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl, lle mae Llywodraeth Cymru yn ei nodi fel sbardun allweddol Amcan Galluogi 2: Arweinyddiaeth sy’n cydweithio i godi safonau.
Gweler Llythyr Cylch Gwaith yr Academi Arweinyddiaeth 2022-2026
Trwy greu’r amodau sydd eu hangen i ysbrydoli arweinwyr, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cyfoethogi bywydau ein plant a’n pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog; yn unigolion iach a hyderus; cyfranwyr mentrus, creadigol; ac fel dinasyddion moesegol, gwybodus.