Skip to main content
English | Cymraeg

Arweinwyr Systemau ac Arweinyddiaeth Systemau: Adolygu’r Dystiolaeth

Yr Athro Alma Harris
Prifysgol Abertawe Ysgol Addysg

Er mwyn creu sylfaen dystiolaeth addas i lywio datblygiad arweinwyr / arweinyddiaeth systemau yng Nghymru, mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi comisiynu’r Athro Alma Harris, arbenigwr blaenllaw ar arweinyddiaeth addysgol, i adolygu’r llenyddiaeth academaidd a pholisi rhyngwladol ac argymell ffyrdd y gellir datblygu arweinwyr / arweinyddiaeth systemau ymhellach yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn amlinellu canfyddiadau’r adolygiad cyfoes o’r dystiolaeth ar arweinydd / arweinyddiaeth system, gan ddarparu dadansoddiad, sylwebaeth, mewnwelediad (gan gynnwys mewnwelediad arbenigwyr gwledig) ac enghreifftiau o wledydd penodol. Nid yw’n adolygiad systematig o’r llenyddiaeth ond yn hytrach mae’n amlinellu’r prif ganfyddiadau o archwiliad cyfoes o’r dystiolaeth (2010-2020) sy’n cwmpasu erthyglau a adolygwyd gan gyfoedion, llyfrau, penodau, a’r llenyddiaeth lwyd. Yn benodol, mae’n canolbwyntio ar rolau, cyfrifoldebau, gweithredoedd, swyddogaethau a chanlyniadau arweinwyr / arweinyddiaeth systemau ac mae’n cynnig enghreifftiau penodol o arweinwyr systemau / arweinyddiaeth o wahanol ranbarthau. Daw’r adroddiad i ben gydag argymhellion ymarferol ar gyfer datblygu arweinwyr / arweinyddiaeth systemau yng Nghymru.

Lawrlwythwch y papur