Skip to main content
English | Cymraeg
Gweledigaeth a Gwerthoedd text in white on green background

Ein Gweledigaeth

Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr a llunwyr polisi o bob rhan o system addysg Cymru i greu’r amodau y bydd arweinyddiaeth addysgol yn ffynnu ynddynt.

Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn:

  • sefydliad gweladwy ac uchel ei barch
  • gyda rôl nodedig, wedi’i mynegi’n glir ac yn cael ei deall yn eang o fewn addysg Gymraeg
  • wedi’u hategu gan drefniadau llywodraethu cadarn a swyddogaeth weithredol effeithiol ac ystwyth.

O’r platfform hwn, erbyn 2026, bydd y sefydliad yn gwneud cyfraniad allweddol i system addysg Cymru.

Vision graphic

Ein Gwerthoedd

Trwy greu’r amodau sydd eu hangen i ysbrydoli arweinwyr, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cyfoethogi bywydau ein plant a’n pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog; yn unigolion iach a hyderus; cyfranwyr mentrus, creadigol; ac fel dinasyddion moesegol, gwybodus.

Mae holl staff yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, aelodau ei Bwrdd, secondeion a Chymdeithion hefyd wedi ymrwymo i weithio mewn ffyrdd sy’n gyson â saith egwyddor bywyd cyhoeddus, sef:

  • Anhunanoldeb
  • Uniondeb
  • Gwrthrychedd
  • Atebolrwydd
  • Bod yn agored
  • Gonestrwydd
  • Arweinyddiaeth
Values graphic

Dogfennau cysylltiedig

Adroddiad Blynyddol

2021-2022

Cynllun Corfforaethol

2023-2026

Llythyr Cylch Gwaith

2022-2026