English | Cymraeg
What we do header

Sicrhau Ansawdd

Mae ein proses sicrhau ansawdd yn cydnabod ac yn rhoi cymeradwyaeth i ddarpariaeth arweinyddiaeth sy’n bodloni’r safonau uchel ac anghenion gofynnol arweinwyr addysgol yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy broses gymeradwyo a monitro trylwyr dan arweiniad cyfoedion.

quality assurance icon

Arloesedd

Mae arweinwyr addysgol yng Nghymru’n gweithredu mewn amgylchiadau heriol, anrhagweladwy ac yn deall bod systemau, offer a meddwl arloesol yn hanfodol. Rydyn ni’n cefnogi arloesi drwy:

Cronfa Llwybr Arloesedd lle gellir datblygu darpariaeth arweinyddiaeth newydd trwy feddwl a gweithredoedd newydd.

Gweithdai Arloesedd Blynyddol i ysgogi meddwl a gweithredu arloesol ymhlith arweinwyr addysgol.

innovation icon

Arweinyddiaeth System

Mae arweinyddiaeth system effeithiol yn llywio hunan-welliant gyda gweithwyr proffesiynol yn cydweithio ac yn arwain y tu hwnt i’w sefydliad eu hunain, rhwng haenau ac ar draws sectorau ac mae hyn yn ganolog i’r gwaith yr ydym yn ei ddatblygu yng Nghymru drwy ein model Cymdeithion blaenllaw.

system leadership icon

Datblygu Arweinyddiaeth

Rydym yn darparu ystod o gyfleoedd i arweinwyr addysgol ddod at ei gilydd yn genedlaethol i gymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol gyda chyfoedion o bob sector trwy ein gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth, Cynadleddau Cenedlaethol, Digwyddiadau Mewn Trafodaeth a Blethers Rhyngwladol. Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i arweinwyr ddatblygu eu galluoedd proffesiynol, teimlo eu bod wedi’u grymuso, eu hysbrydoli a’u hysgogi.

Leadership Development icon white

Adnoddau

Credwn bod rhaid i adnoddau ymarferol sydd â’r nod o helpu arweinwyr i ddatblygu eu hymarfer eu hunain fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Felly, mae’r adnoddau a gyhoeddir gennym yn cael eu llywio gan lenyddiaeth ymarferwyr a pholisi rhyngwladol – a phrofiad byw arweinwyr addysgol yng Nghymru

Resources icon white

Mewnwelediad

Mae’r Gyfres Mewnwelediad yn cyflwyno meddwl newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ffurf comisiynau ymchwil, adolygiadau o lenyddiaeth polisi a darnau barn ac academaidd rhyngwladol.   

Insight icon

Lles

Rydym am i les arweinwyr addysgol gael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr, i ddatblygu dull mwy strategol o fuddsoddi yn yr ‘arweinydd cyfan’.

wellbeing icon

Datblygu Gweithlu Strategol

Rydym yn gweithio tuag at greu system lle mae rolau arwain yn ddeniadol ac mae arweinwyr yn cael eu cymell i aros a datblygu o fewn y proffesiwn. I gefnogi hyn, mae angen casglu, dadansoddi a chyhoeddi data diweddar a defnyddiol ar recriwtio a chadw arweinwyr addysgol er mwyn llywio cynigion strategol.

Strategic Workforce Development icon white

Fframwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi sefydlu Fframwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid helaeth sy’n ceisio gweithio gyda rhwydweithiau a fforymau rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli pob maes arweinyddiaeth addysgol ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Stakeholder Icon White