Skip to main content
English | Cymraeg

Yusuf Ibrahim

Aelod o'r Bwrdd

Mae Yusuf Ibrahim yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn aelod o’r Black Leadership Group, mae’n awyddus iawn i wella rhagolygon arweinyddiaeth pobl o bob cefndir, yn enwedig pobl o gefndiroedd llai breintiedig ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae Yusuf wedi gweithio ar lefel genedlaethol, gan gyfrannu at lunio a darparu’r model asesiadau wedi’u haddasu yn ystod y pandemig. Yn y cyfnod dan sylw, bu Yusuf yn arwain prosiect cymunedol i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i weithwyr rheng flaen yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro. Yn drawsnewidydd digidol, mae Yusuf yn benderfynol o sicrhau bod technolegau newydd yn galluogi newid cadarnhaol i bawb, gan alluogi mwy o bobl i fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu a datblygu.

Dechreuodd Yusuf ei yrfa fel athro Addysg Grefyddol a Seicoleg a buan iawn yr aeth ymlaen i ysgwyddo swyddi arwain yn ymwneud â’r cwricwlwm a darpariaeth fugeiliol. Gyda thros bymtheg mlynedd o brofiad, mae gyrfa Yusuf wedi’i weld yn gweithio fel arweinydd canol, uwch a gweithredol yn Llundain, Bryste a Chaerdydd. Wedi gweithio mewn ysgolion a’r sector AB, mae gan Yusuf brofiad cwricwlwm, bugeiliol, gweithredol a strategol eang. Yn arweinydd sy’n cael ei lywio gan werthoedd, mae Yusuf yn credu mewn meithrin timau cefnogol sy’n gweithio mewn systemau effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr, staff, cymunedau a busnesau.

Y tu allan i addysg, mae Yusuf yn mwynhau ysgrifennu, treulio amser gyda’i deulu ac mae wrth ei fodd yn crwydro cefn gwald ac arfordir Cymru.

Yusuf Ibrahim

Aelodau'r Bwrdd

Gweld y Cyfan
Dr Deborah (Debbie) Nash

Mae Dr Debbie Nash yn academydd sy’n arbenigo mewn gwyddorau anifeiliaid. Treuliodd Debbie flynydd…

Katie Phillips

Mae Katie yn fyfyriwr MSc Cymdeithas, Amgylchedd, a Newid Byd-eang yn ddiweddar ac mae ganddi radd (…

Dr John Graystone

Mae Dr John Graystone wedi bod gyda’r Academi Arweinyddiaeth ers 2018 ac wedi mwynhau gweld y sefy…