Mae Dr Debbie Nash yn academydd sy’n arbenigo mewn gwyddorau anifeiliaid. Treuliodd Debbie flynyddoedd yn dysgu mewn Addysg Bellach, cyn cwblhau PhD yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol, ac yna Darlithyddiaeth ac Uwch Ddarlithyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, mae Debbie wedi cael profiad uniongyrchol o addysgu ac wedi cael blas ar y sgiliau a sylfaen wybodaeth sydd gan bobl ifanc sydd wedi cael addysg brif ffrwd.
Yn ei rôl ddarlithio, mae Debbie yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i gysoni strwythurau cyrsiau â’r strategaeth fewnol a chanllawiau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch. Mae ganddi hefyd ddyletswyddau gofal bugeiliol ar gyfer myfyrwyr ac mae’n mentora ei chydweithwyr, e.e. adolygu ceisiadau Uwch Gymrawd ar gyfer achrediad yr Academi Addysg Uwch.
Gyda mab ifanc mewn addysg gynradd, mae gan Debbie ddiddordeb go iawn mewn llywio’r cwricwlwm addysg brif ffrwd yng Nghymru o safbwynt rhiant. Fel mam sengl sy’n gweithio’n llawn amser, mae gan Debbie brofiad uniongyrchol o anghenion rhieni sy’n gweithio, yn enwedig yn ystod y pandemig, pan oedd gofyn cydbwyso gweithio gartref yn ofalus gydag addysgu gartref a gofal plant. Mae Debbie yn edrych ymlaen at gefnogi datblygiad arweinwyr addysgol sy’n gweithio o fewn y cyd-destun hwn mewn cyfnod o newid parhaus.
Yn ogystal â threulio amser gyda’i mab, mae Debbie yn mwynhau cadw’n heini (mewn pyliau!) a marchogaeth ar fynyddoedd Cymru.