Mae prosiect ymchwil newydd wedi’i gaffael a bydd yn dechrau yn nhymor yr hydref 2022 i archwilio recriwtio a chadw uwch arweinwyr ysgolion yng Nghymru. Bydd y prosiect yn ehangu ac yn dyfnhau’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar recriwtio a chadw ac yn nodi cynigion strategol i lywio gwaith polisi’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn y maes hwn. Byddwn yn cydweithio â chwe awdurdod lleol a phartneriaeth prifysgol i gefnogi’r gwaith hwn ymhellach.
Ekaterina Aleynikova, Jasmin Rostron, Sophie Kitson (Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) a James Zuccollo, Eva Jiménez (Sefydliad Polisi Addysg)
Mae rôl arweinydd ysgol yn hanfodol i lywio’r amgylchedd addysgol a dylanwadu ar lwyddiant cyffredinol ysgol. Mae arweinwyr ysgol effeithiol yn ysbrydoli ac ysgogi athrawon a myfyrwyr, gan greu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol a meithrin diwylliant ysgol gadarnhaol a chynhwysol. Fodd bynnag, mae cynnal y cyflenwad o arweinwyr ysgol yng Nghymru yn heriol.
Yn y cyd-destun hwn, nod yr ymchwil hwn yw ehangu a dyfnhau’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar yr heriau o ran recriwtio a chadw uwch arweinwyr ysgolion yng Nghymru, a sut y gellid mynd i’r afael â’r heriau hynny.
Comisiynwyd yr ymchwil hwn gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac fe’i hysgrifennwyd gan NIESR a’r Sefydliad Polisi Addysg.