Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn awyddus i gefnogi darparwyr i greu dulliau newydd ac arloesol o ddatblygu arweinyddiaeth addysgol. Arloesedd o ran datblygu arweinyddiaeth addysgol yw creu, datblygu a gweithredu darpariaeth ddatblygiadol ‘newydd’, gyda’r nod o fod yn:
ac sy’n darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o ansawdd i bawb.
Dylid cadw at y meini prawf sydd yng Nghanllawiau Cymeradwyo Darpariaeth Datblygu Arweinyddiaeth wrth arloesi gyda darpariaeth newydd ar gyfer arweinyddiaeth addysgol.
Bydd angen i’r ddarpariaeth ddangos hefyd sut y bydd, dros amser, a thrwy’r camau datblygu, yn casglu’r dystiolaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r meini prawf effaith a nodir ym maes pedwar a sicrhau cynaliadwyedd y tu hwnt i’r flwyddyn gychwynnol. Dylai’r ddarpariaeth ddangos y model dasg iterus ar gyfer gwelliant. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn disgwyl i’r darparwr gynnig ei ddarpariaeth ar gyfer cymeradwyaeth.
Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn ystyried cefnogi darparwyr yn ariannol i ddatblygu darpariaeth sy’n ‘newydd’ ac sy’n bodloni’r meini prawf sydd yng Nghanllawiau Cymeradwyo Darpariaeth Datblygu Arweinyddiaeth.
Ar gyfer pob ymholiad, ac i gyflwyno’ch cais cysylltwch â post@agaa.cymru.
Cynlluniwyd y bedwaredd gyfres o weithdai arloesedd, ARLOESEDD+, ar gyfer uwch arweinwyr addysgol ledled Cymru ac fe’i cynhaliwyd ym mis Mawrth 2023. Datblygwyd y sesiynau hyn yn unol â’r sgiliau sy’n rhan annatod o’r Pedwar Diben ac fe’u cyflwynwyd gan ddau arloeswr profiadol, yr Athro Andy Penaluna a Jessica Leigh Jones MBE (iungo Solutions).
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith arloesedd.
Arwain Arloesedd Digidol