Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi sefydlu Fframwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid helaeth sy’n ceisio gweithio gyda rhwydweithiau a fforymau rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli pob maes arweinyddiaeth addysgol ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Trwy ei Fframwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn anelu at:
Yn hytrach na chael ei weld fel digwyddiad neu broses unigol, bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei ystyried gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel datblygiad perthynas drwy bedwar cyfnod penodol:
Byddwn yn defnyddio nifer o ddulliau i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Crewyd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ym mis Mehefin 2018. Mae ei aelodau presennol yn ymarferwyr o bob rhan o nifer o sectorau addysgol gan gynnwys Ysgolion, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a’r Sector Gwaith Ieuenctid.
Mae’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn rhoi her a chraffu i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gan sicrhau bod llais arweinyddiaeth addysgol yn cael ei gynrychioli. Mae’r grŵp yn eiriolwyr pwysig o waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gan dynnu ffocws at waith y sefydliad ym mhob rhwydwaith presennol.
Mae gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yr Undeb ar wahân ac mae hefyd yn cynnal cyfarfodydd rhanddeiliaid rheolaidd gyda sefydliadau haen ganol sy’n cynnwys Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Colegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid (PSIC), Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cyfarwyddwr yr Esgobaeth a’r consortia addysg rhanbarthol.
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol bob amser yn ceisio adeiladu a datblygu perthnasoedd rhanddeiliaid newydd. Os hoffech wahodd aelod o’r tîm i gyflwyno i’ch sefydliad neu’ch lleoliad, cysylltwch ag aelod o’r tîm drwy post@agaa.cymru.
Fel rhan o’i ymrwymiad i gynnal a datblygu perthnasau gydag ystod eang o randdeiliaid o bob rhan o’r sector addysgol, mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cynnal Fforwm Rhanddeiliaid blynyddol.
Nod y Fforwm Rhanddeiliaid yw dod ag arweinwyr o bob rhan o bob lleoliad addysg yng Nghymru ynghyd, er mwyn dyfnhau’r ddealltwriaeth o waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a chasglu adborth pwysig a fydd yn helpu i lunio gweithgaredd y sefydliad.
Caiff cyfranogwyr gyfle i drafod arferion arweinyddiaeth eu hunain gydag arweinwyr eraill a rhannu eu syniadau o ran sut y gall yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol eu cefnogi, eu lleoliad a’r sector addysg ehangach yng Nghymru. Mae’r wybodaeth gafodd ei chasglu yn cael ei defnyddio i roi adborth i Lywodraeth Cymru er mwyn llunio a dylanwadu ar bolisi ar lefel uwch.
Mae pob digwyddiad fforwm yn cyflwyno cyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth bwysig o’r amser. Mae cyfleoedd hefyd i rwydweithio â chydweithwyr a chael gwybod mwy am ein darpariaeth a gymeradwywyd, prosiectau llwybr arloesdd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
O Wanwyn 2023, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cynnal cyfres o fforymau ar-lein trwy gydol y flwyddyn, gan dargedu grwpiau rhanddeiliaid penodol i drafod a chynnig adborth ar wahanol feysydd blaenoriaeth a llif gwaith.
“Rwy’n ei hystyried yn anrhydedd bod yn Gadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae’r grŵp yn rhan allweddol o waith yr Academi Arweinyddiaeth ac yn cyfarfod yn tymherol i drafod gweithgaredd, rhoi barn ac argymhellion i’r tîm. Daw aelodau’r grŵp o amrywiaeth o sectorau o fewn tirwedd addysg Cymru a gallwch ymgyfarwyddo â nhw drwy eu ffotograffau a’u bywgraffiadau, cliciwch isod i ddysgu mwy.
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol i waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i sicrhau bod llais yr arweinyddiaeth yn cael ei glywed drwyddi draw. Os hoffech ddysgu mwy am waith y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid neu gymryd rhan, cysylltwch ag aelod o’r tîm ar post@agaa.cymru.”
Owain Gethin Davies yw Cadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysg Cymru a hefyd Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy.
Ffotograffiaeth: Polly Thomas