English | Cymraeg
Quality Assurance Header Welsh

Cymeradwyaeth

Un o’n dibenion craidd yw cyfrannu at ddatblygu arweinwyr presennol ac uchelgeisiol ar draws y system addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cydlyniaeth ac ansawdd ar gyfer y ddarpariaeth arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael yng Nghymru.

Business meeting - Office interior

Darpariaeth Arweinyddiaeth a Gymeradwywyd

Mae cymeradwyaeth gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dangos bod y ddarpariaeth wedi bodloni’r safonau uchel a nodir yn y meini prawf cymeradwyo drwy broses gam dan arweiniad cyfoedion trylwyr.

Mae cymeradwyo yn sicrhau arweinwyr bod y ddarpariaeth yn cael ei ategu gan dystiolaeth ryngwladol ar yr hyn sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i ddysgwyr.

Team watching a presentation at a meeting

Monitro

Mae’r broses fonitro yn cadarnhau bod y ddarpariaeth sydd wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn parhau i fodloni’r meini prawf fel y nodir yn y Gymeradwyaeth o Ddarpariaeth Arweinyddiaeth – Canllawiau. Mae’r broses hon yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod o ansawdd uchel ac yn parhau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau datblygu arweinyddiaeth yn unol â pholisi cenedlaethol.

Monitoring - Team members project development photo