Un o’n dibenion craidd yw cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu cydlyniad a sicrhau ansawdd ar gyfer ystod o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol trwy broses gymeradwyo a arweinir gan gymheiriaid.
Pan fyddwn yn cymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth, rydym yn datgan bod gennym hyder yng ngallu’r darparwr i ddatblygu a darparu ansawdd. Mae statws arnodedig yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dangos bod y darparwr wedi bodloni’r meini prawf cymeradwyo a’r safonau uchel y mae’n eu mynnu gan ddarparwyr. Mae’n rhoi sicrwydd i arweinwyr bod y ddarpariaeth y maent yn buddsoddi ynddi yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i’r ddarpariaeth sydd wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar hyn o bryd a’r darparwyr sy’n cynnig y dysgu proffesiynol hwn.
Teitl y ddarpariaeth wedi’i chymeradwyo: Rhaglen Ddatblygu ar gyfer Penaethiaid Dros Dro a Phenaet…
Mae Canolfan Ragoriaeth OLEVI wedi’i lleoli yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn ger Llandudno. Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Dyffryn Conwy ac wedi’i hachredu i ddarparu rhaglenni sydd wedi’u datblygu a’u cynhyrchu gan OLEVI International.
Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch 6 diwrnod mewn Hyfforddi a Deallusrwydd Emosiynol a Rhaglen Hyfforddiant Weithredol Uwch 3 diwrnod.