Dorian Pugh yw Pennaeth Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, Ceredigion. Mae Ysgol Henry Richard yn ysgol pob oed o dair blwydd i un ar bymtheg. Penodwyd Dorian yn bennaeth ar yr ysgol ym mis Ionawr 2016. Yn flaenorol, roedd Dorian yn Bennaeth adran Fathemateg yn yr ysgol ac yn gynt yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth.
Mae Dorian yn rhan o fforwm ysgolion pob oed Cymru sydd yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae ysgolion pob oed yn gweithredu ar draws Cymru.