Skip to main content
English | Cymraeg

Lynne Williams

Rhanddeiliad

Lynne Williams yw Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Coch, sy’n ysgol gynradd gymunedol fawr gyda thua 630 o ddysgwyr, wedi’i lleoli yn nhref farchnad yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Mae gan yr ysgol ddwy Ganolfan Adnoddau Dysgu arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth yn ogystal â chlwb gofal cyn-ysgol a gofal cofleidiol. Dechreuodd Lynne ei gyrfa 29 mlynedd yn ôl, mae wedi dysgu mewn amrywiaeth o ysgolion, lle treuliodd amser fel Pennaeth Canolfan Adnoddau Iaith. Mae Lynne wedi bod yn bennaeth ers pymtheg mlynedd ac roedd yn arolygydd cymheiriaid profiadol Estyn.

Mae Lynne yn aelod gweithgar o ystod o rwydweithiau gan gynnwys y Clwstwr Ysgolion Lleol yn Sir y Fflint, mae hi hefyd yn ysgrifennydd Ffederasiwn Penaethiaid Sir y Fflint. Mae Lynne hefyd yn aseswr CPCP ac yn mentora’n gydweithwyr o awdurdodau cyfagos ar y Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr.

Lynne Williams

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Caroline Lewis

Rhanddeiliad

Sian Evans

Rhanddeiliad

Julie Moseley

Rhanddeiliad