Skip to main content
English | Cymraeg

Kerry Thomas

Rhanddeiliad

Kerry Thomas yw Pennaeth Ysgol Gynradd Dyfnant yn Abertawe. Mae Kerry wedi bod yn ei swydd ers chwe blynedd. Mae hi hefyd yn Ymgynghorydd Gwella Ysgolion ar secondiad ar gyfer clwstwr o ysgolion yn Abertawe. Symudodd Kerry yn ôl i Gymru saith mlynedd yn ôl, ar ôl bod yn Bennaeth Ysgol Kings Hill yng Nghaint cyn hynny a bu’n Ymgynghorydd Her Arweiniol ar gyfer ysgolion cynradd yn Abertawe am ddwy flynedd cyn dechrau yn ei swydd bresennol. Mae Kerry yn angerddol dros addysg gynradd yn ei chyfanrwydd ac wedi bod yn ffodus iawn yn ei gyrfa i weithio gydag arweinwyr ysbrydoledig, sydd wedi rhoi cyfleoedd gwych iddi ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol. Mae datblygu arweinwyr yn ei lleoliad ei hun ac ar draws dinas Abertawe yn un o’i rolau allweddol ac mae hi wedi arwain hyfforddiant a chyfarfodydd rhwydwaith ar gyfer y ddinas a’r rhanbarth ar gyfer Darpar Brifathrawon a Dirprwy Benaethiaid. Yn ei hysgol ei hun, mae Kerry wedi datblygu llwybr DPP ar gyfer staff ar bob lefel. 

Kerry Thomas

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Caroline Lewis

Rhanddeiliad

Sian Evans

Rhanddeiliad

Julie Moseley

Rhanddeiliad