Skip to main content
English | Cymraeg

Samantha Whitford

Rhanddeiliad

Mae Samantha Whitford yn Ddirprwy Bennaeth yn Uned Cyfeirio Disgyblion Maes Derw, Abertawe. Gyda dros 15 mlynedd o weithio o fewn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) mewn amrywiaeth o rolau. Bu Samantha yn Bennaeth y Ganolfan am 5 mlynedd, gan reoli darpariaeth ar gyfer disgyblion â gorbryder ac anawsterau iechyd meddwl. Dyma ble astudiodd ar gyfer ei meistr mewn Iechyd Meddwl a Lles mewn Addysg.

Dechreuodd Samantha ei gyrfa yn addysgu Dylunio a Thechnoleg yn y brif ffrwd ac ystod o bynciau yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ei gallu i fod yn athrawes greadigol ac arloesol wedi caniatáu iddi fod yn llwyddiannus wrth weithio gyda phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio. Mae ei hangerdd dros y sector UCD wedi’i weld yn ei hymgyrch i’r ddarpariaeth ddod yn arbenigwyr mewn anawsterau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl. Mae Samantha yn teimlo bod aelodaeth yn y grŵp rhanddeiliaid hwn yn gyfle gwych ac yn fraint. Bod yn llais i faes addysg mor bwysig, sy’n darparu gwasanaeth i rai o’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed ac mewn angen.

Samantha Whitford

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Kerry Thomas

Rhanddeiliad

Lynne Williams

Rhanddeiliad

David Williams

Rhanddeiliad