Skip to main content
English | Cymraeg

Caroline Lewis

Rhanddeiliad

Caroline Lewis yw’r Cyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (campws Abertawe). O fewn y rôl honno mae Caroline yn goruchwylio’r ddarpariaeth hyfforddi athrawon ar gyfer lleoliadau addysg ôl-16 ar gyfer y brifysgol a cholegau cysylltiedig. Mae Caroline hefyd yn aelod gweithredol o Gymdeithas Astudiaethau Addysg Prydain ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd y sefydliad. Mae hi hefyd yn gweithio fel rhan o is-grŵp ôl-16 USCET ac yn gweithio hefyd ar y llwybr arweinyddiaeth ar gyfer yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru). Mae meysydd diddordeb ymchwil Caroline yn cynnwys polisi addysg, datblygu arweinyddiaeth a phrofiadau menywod o fewn arweinyddiaeth addysgol. Mae hi wedi bod yn rhan o nifer o fentrau ymchwil Llywodraeth Cymru i’r sector hyfforddi athrawon ôl-16 ac mae hefyd wedi gweithio i gefnogi cyfranogwyr yn rhaglen arweinyddiaeth Aurora yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr i gefnogi gwaith Rhwydwaith Merched PCYDDS.

Caroline Lewis

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Kerry Thomas

Rhanddeiliad

Lynne Williams

Rhanddeiliad

Samantha Whitford

Rhanddeiliad