Skip to main content
English | Cymraeg
Well-being Header Welsh

Lles

Rydym am i les arweinwyr addysgol gael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr, i ddatblygu dull mwy strategol o fuddsoddi yn yr ‘arweinydd cyfan’.

Mae’r Academi Arweinyddiaeth bellach wedi ffurfio gweithgor i gynnal adolygiad o’r gefnogaeth bresennol i les arweinwyr a chyd-lunio Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Lles Arweinwyr Addysgol.

Yn ogystal â darparu’r strategaethau hyn mae’r Academi Arweinyddiaeth yn datblygu partneriaeth gyffrous gyda GIG Cymru sy’n canolbwyntio ar les ac wedi’i hysbrydoli gan eu Hegwyddorion Arweinyddiaeth Tosturiol.

Cyfres Mewnwelediad

Mwy na “phlastr”: Deall y gofynion a nodi’r adnoddau i greu uwch arweinwyr cynaliadwy ym myd addysg Cymru

Darllenwch ein papur Cyfres Mewnwelediad newydd gan Dr Ali Davies sy’n astudio canfyddiadau’r arlowg Lles Arweinwyr Ysgolion Arolwg Cenedlaethol 2020 ymhellach ac yn archwilio’r cysyniad o arweinyddiaeth dosturiol o fewn y sector addysg.

Insights Yellow Icon (Wellbeing)

Lles Arweinwyr Ysgolion Arolwg Cenedlaethol 

Nododd ein harolwg, Lles Arweinwyr Ysgolion Arolwg Cenedlaethol, a gynhaliwyd yn haf 2020, feysydd pwysig lle mae arweinwyr yn profi straen a phryder yn eu bywydau proffesiynol a phersonol, gan gynnwys drwy lwyth gwaith ac agweddau ar y systemau atebolrwydd ac arolygu. Byddwn yn ehangu’r sylfaen dystiolaeth hon i gynnwys y sector ieuenctid ac ôl-16 yn 2021.

Well-being of school leaders national survey welsh cover

Buddsoddwyr mewn Pobl: Rydym yn buddsoddi mewn lles Aur

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn falch iawn o dderbyn yr achrediad – rydym yn buddsoddi mewn lles, achrediad aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl.

Mae achrediad aur yn cydnabod bod gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol strategaeth lles o ansawdd uchel a chefnogir gan bawb. Mae cyfleoedd a lleoedd pwrpasol i’r tîm weithio yn ogystal â chymdeithasu ac maent yn deall ac yn cefnogi iechyd meddwl ei gilydd yn llwyddiannus.

Investors in people, we invest in well-being gold logo English

Cynhadledd Lles

Roedd ail gynhadledd ar-lein yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn archwilio ‘Arweinyddiaeth Dosturiol’ a sut y gallwn ddefnyddio’r athroniaeth hon i feithrin diwylliant ar draws y sector addysg lle mae lles ein harweinwyr yn cael eu blaenoriaethu. Peidiwch â phoeni os gwnaethoch chi golli’r gynhadledd, gallwch dal i fyny gyda’r sesiynau ar-lein.

Well-being Conference 2022 Sketchnote Welsh