Skip to main content
English | Cymraeg
Rydym yn buddsoddi mewn lles Aur

Rydym yn buddsoddi mewn lles Aur

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn falch iawn o dderbyn yr achrediad – rydym yn buddsoddi mewn lles, achrediad aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl.

Mae achrediad aur yn cydnabod bod gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol strategaeth lles o ansawdd uchel a chefnogir gan bawb. Mae cyfleoedd a lleoedd pwrpasol i’r tîm weithio yn ogystal â chymdeithasu ac maent yn deall ac yn cefnogi iechyd meddwl ei gilydd yn llwyddiannus.

Cenhadaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw “Ysbrydoli Arweinwyr – Cyfoethogi Bywydau” gyda’r nod o ddod ag eglurder a chydlyniant i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. Trwy ein gwaith byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gallu ymgysylltu â’r dysgu proffesiynol mwyaf perthnasol, ystyrlon ac ysbrydoledig.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi’i hadeiladu ar weledigaeth gref, wedi’i hategu gan set o werthoedd craidd sydd wedi’u cyd-ddatblygu gan y sector. Wrth wraidd y weledigaeth hon mae ymrwymiad i les pawb. Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ffynnu pan gefnogir lles arweinwyr, ac rydym yn blaenoriaethu lles holl weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ein tîm ein hunain a’n Cymdeithion.

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl: “Hoffem longyfarch yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae’r achrediad aur rydym yn buddsoddi mewn lles yn ymdrech wych i unrhyw sefydliad ac yn gosod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru mewn cwmni cain gyda llu o sefydliadau sy’n deall gwerth eu pobl.”

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn yr achrediad rydym yn buddsoddi mewn lles – achrediad aur i gydnabod y ffyrdd o weithio yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. I sefydliad mor ifanc mae’n dda gwybod bod gennym ni les wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn heriol ac mae gwybod ein bod wedi sicrhau lles y rhai sy’n gweithio ochr yn ochr â ni yn dangos ein bod wedi blaenoriaethu a chefnogi eu lles corfforol, seicolegol a chymdeithasol.”

 

Dywedodd Dr Sue Davies: “Fel Cadeirydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, rwyf wrth fy modd bod gwaith caled y tîm wedi cael ei gydnabod gan Fuddsoddwyr mewn Pobl drwy’r Achrediad Aur ar gyfer y wobr rydym yn buddsoddi mewn lles. Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith ysbrydoledig a wneir gan y tîm bach o ran eu hymrwymiad i les. Mae hyn wedi bod yn arbennig o ingol trwy gydol heriau’r pandemig yn yr ystyr bod y tîm wedi cynnal ymroddiad, ymrwymiad ac angerdd dros sicrhau lles pawb. Mae’r wobr hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweledigaeth a gwerthoedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. I mi, mae’n anrhydedd ac yn fraint cael bod yn rhan o’r sefydliad deinamig blaengar hwn, ac rwy’n llongyfarch y tîm ar y wobr bwysig hon.”

Darganfyddwch fwy am ein gwaith lles

Yn ôl