Skip to main content
English | Cymraeg

Mwy na “phlastr”

Deall y gofynion a nodi’r adnoddau i greu uwch arweinwyr cynaliadwy ym myd addysg Cymru
Dr Ali Davies
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol (Lles Gweithwyr) 

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi ymrwymo i helpu i greu system addysg Gymreig lle “mae lles arweinwyr addysgol yn cael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig”. Er mwyn llywio’r gwaith hwn, cynhaliodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol arolwg cenedlaethol o arweinwyr ysgol yn haf 2020 a chafodd ymateb gan dros 1000 o arweinwyr ysgol. Ysbrydolodd canfyddiadau allweddol yr adroddiad ddiddordeb yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn athroniaeth Arweinyddiaeth Dosturiol a sut y gellid defnyddio hyn i hwyluso newid diwylliannol yn y ffordd y mae’r system addysg yn meddwl am ac yn cefnogi lles arweinwyr yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Dr Benna Waites a Dr Adrian Neal, Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, archwiliodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol sut mae sector Iechyd Cymru wedi ymgorffori ‘Egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol’ yn eu harferion er mwyn meithrin gweithlu cynaliadwy, lle gall gweithwyr ffynnu.

Arweiniodd hyn at gomisiynu Dr Ali Davies, Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i ysgrifennu papur Cyfres Mewnwelediad, a oedd yn astudio canfyddiadau’r arolwg lles ymhellach ac yn archwilio’r cysyniad o arweinyddiaeth dosturiol o fewn y sector addysg. Cafodd papur Dr Ali Davies, ‘Mwy Na Phlaster Gludiog’, ei lywio hefyd gan grŵp ymgynghori Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer LlesArweinwyr Addysgol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector addysg gan gynnwys ysgolion, yr haen ganol, Llywodraeth Cymru yn ogystal ag academyddion y sector iechyd ac addysg. Mae ‘Mwy na Phlastr’ yn mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â lles arweinwyr addysgol, yn ogystal â nodi argymhellion y gellir eu defnyddio gan bob haen o’r sector addysg i feithrin diwylliant, lle mae lles arweinwyr yn cael ei flaenoriaethu. Rhannodd Dr Ali Davies uchafbwyntiau papur Cyfres Mewnwelediad yn ystod cynhadledd lles blynyddol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn 2022. Mae’n bleser gennym nawr rannu’r papur gyda chi a’r system.

Lawrlwythwch y papur

Dr Ali Davies 

I ddechrau astudiodd Ali Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt ond ar ôl gweithio’n agos gyda phobl ifanc agored i niwed mewn amrywiaeth o leoliadau yn y DU a thramor, datblygodd ddiddordeb yn y ffordd y mae pobl yn gweld eu hunain ac yn ymateb i eraill. Arweiniodd hyn at awydd i ddeall anghenion pobl yn well er mwyn helpu i liniaru effaith adfyd ar ddatblygiad. Dilynodd yrfa mewn Seicoleg Glinigol ar ôl ennill gradd Meistr mewn Seicoleg (Prifysgol Manceinion) a chwblhaodd ei hyfforddiant yn 2012 (Prifysgolion Coventry a Warwick). Mae Ali wedi bod yn gweithio yn y GIG ers 2007 ac mae’n gwerthfawrogi cyfuno therapi unigol â gweithio gyda’r system ehangach i helpu pobl i wneud synnwyr o drallod seicolegol a lleihau ei effaith. Ar hyn o bryd mae’n cyd-arwain tîm iechyd meddwl arbenigol 24/7 sy’n cefnogi plant sy’n derbyn gofal i symud o ddarpariaeth breswyl i leoliadau teuluol. Mae profi amrywiaeth o arddulliau arwain wedi ei helpu i arsylwi ar yr effaith y gall rolau uwch ei chael ar ddiwylliant sefydliad a chanlyniadau clinigol. Mae Ali wedi ymrwymo i ymarfer sy’n seiliedig ar werthoedd ac yn 2018 cwblhaoddGwobr Mary Seacole’ (Academi Arweinyddiaeth y GIG). Mae Ali yn teimlo’n angerddol dros gymhwyso ymarfer sy’n wybodus yn seicolegol i greu newid mewn systemau a grymuso unigolion.