Mae Mike yn arweinydd ac yn rheolwr pobl brofiadol ac mae wedi gweithio ar draws nifer o wahanol wledydd a diwylliannau. Mae ganddo ddealltwriaeth fanwl o systemau rheoli ansawdd rhyngwladol, technegau archwilio a safonau. Gweithiodd Mike ar gyfer y Lloyds Register Group fel Rheolwr Gyfarwyddwr Lloyds Register Quality Assurance (LRQA), ei fusnes systemau rheoli byd-eang. Roedd e hefyd yn aelod o dîm cyfarwyddwyr gweithredol y grŵp a oedd yn gyfrifol am gyfeiriad a rheolaeth gyffredinol y grŵp asesu gwasanaethau peirianneg ryngwladol a chydymffurfiaeth biliwn o bunnoedd. Yn ystod ei ddeiliadaeth, tyfodd y busnes LRQA o weithrediad cychwynnol yn y DU i fod yn fusnes byd-eang gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae Mike wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y corff masnach fyd-eang, Independent International Organisation for Certification (IIOC) sy’n cysylltu â rheoleiddwyr, cynrychiolwyr y llywodraeth a chystadleuwyr i gynghori ar sut i lunio polisi ar draws y sector.
Mae Mike yn falch iawn o fod yn rhan o’r Academi Arweinyddiaeth a chreu sefydliad newydd yn llwyddiannus o fewn system addysg Cymru. Hoffai ddefnyddio ei brofiad o arweinyddiaeth sefydliadol ryngwladol i helpu’r Academi Arweinyddiaeth i bontio i’r lefel nesaf o aeddfedrwydd sefydliadol ac i gael ei hystyried yn arweinydd meddwl mewn arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Cafodd Mike ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae ganddo Radd Baglor mewn Peirianneg a Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes. Mae Mike yn rhannu ei amser rhwng cartrefi yng Nghaerdydd a Sir Benfro. Mae’n mwynhau cerdded, beicio ac mae ganddo randir organig mawr. Ers ymuno â bwrdd yr Academi Arweinyddiaeth mae Mike wedi dychwelyd i Brifysgol Caerdydd ar ôl mwy na 30 mlynedd i gwblhau MSc mewn Polisi Addysg.