Skip to main content
English | Cymraeg

Dr Sue Davies

Cadeirydd

Dr Sue Davies yw Cadeirydd bwrdd yr Academi Arweinyddiaeth. Mae Sue wedi bod gyda’r Academi Arweinyddiaeth ers ei sefydlu yn 2018 ac mae’n ymrwymedig i’r sefydliad, gan roi cymorth rhagorol i’r tîm. Hoffai weld yr Academi Arweinyddiaeth yn parhau i ehangu ei ‘chyrhaeddiad’.

“Fel Cadeirydd y Bwrdd, rwyf wedi ‘gwylio’ pethau’n digwydd – rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod wedi cael y rôl hon a bydd yn anrhydedd i mi barhau fel Cadeirydd cyhyd ag y bydd ei angen arnaf.”

Mae Sue yn gyn-ddirprwy bennaeth ac mae wedi gweithio mewn sawl maes addysg gan gynnwys fel swyddog addysg ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA), fel cydlynydd prosiect ar gyfer Llywodraeth Cymru ac fel swyddog datblygu AAA yng Nghymru. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o nifer o gyrff llywodraethu ysgolion ac wedi darparu hyfforddiant i lywodraethwyr tra’n gweithio yn yr awdurdod lleol.

Yn y sector addysg uwch, yn flaenorol roedd Sue yn bennaeth ysgol academaidd ac yn Ddeon Cynorthwyol cyfadran prifysgol fawr. Mae Sue yn Gyfarwyddwr LlP Cydymaith Campws sy’n cynnig cynllunio strategol a gweithredol mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae ei chefndir mewn ymchwil yn ei galluogi i gyfrannu sgiliau dadansoddol a gallu deallusol ar faterion strategol ac ymarferol. Dyfarnwyd y teitl Athro Cysylltiol Cyfiawnder Cymdeithasol iddi yn 2013 er mwyn gydnabod ei gwaith ym maes cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant, a’i hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae Sue yn caru cerddoriaeth a cherdded. Mae hi hefyd yn fam falch o ddwy ferch aeddfed ac mae ganddi ŵyr ifanc, sy’n bleser llwyr.

Dr Sue Davies

Aelodau'r Bwrdd

Gweld y Cyfan
Dr Deborah (Debbie) Nash

Mae Dr Debbie Nash yn academydd sy’n arbenigo mewn gwyddorau anifeiliaid. Treuliodd Debbie flynydd…

Katie Phillips

Mae Katie yn fyfyriwr MSc Cymdeithas, Amgylchedd, a Newid Byd-eang yn ddiweddar ac mae ganddi radd (…

Yusuf Ibrahim

Mae Yusuf Ibrahim yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn aelod o’r Black Leade…