Skip to main content
English | Cymraeg

Dr Martin Price

AELOD O'R BWRDD

Dr Martin Price yw cyfarwyddwr Consultancy.coop LLP, ymgynghoriaeth reoli ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol a cydweithredol yng Nghymru. Mae’n llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn yn y Barri ac Ysgol Uwchradd Gatholig Illtyds Sant yng Nghaerdydd. Mae ei rolau hefyd yn cynnwys cadeirydd Grŵp Llywio Llywodraethwyr Consortiwm Canolbarth y De a chadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Bro Morgannwg.

Mae Martin wedi gweithio mewn nifer o rolau uwch reolwyr ac arweinyddiaeth yn y trydydd sector yng Nghymru gan gynnwys cadeirydd Sefydliad Codi Arian Cymru a chadeirydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru.

Fel rhan o fwrdd yr Academi Arweinyddiaeth, mae Martin wedi mwynhau helpu’r sefydliad i gael yr effaith fwyaf posibl wrth ddatblygu arweinwyr a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr Cymru ac yn creu system addysg ragorol yng Nghymru.

Mae Martin yn mwynhau llenyddiaeth fodern, yn enwedig cyfieithiadau Ewropeaidd ac mae ganddo docyn tymhorol ar gyfer Rygbi Gleision Caerdydd. Mae’n dad i bump ac mae dau o’i blant yn athrawon yng Nghymru.

 @martinprice1

 Dr Martin Price

Dr Martin Price

Aelodau'r Bwrdd

Gweld y Cyfan
Dr Deborah (Debbie) Nash

Mae Dr Debbie Nash yn academydd sy’n arbenigo mewn gwyddorau anifeiliaid. Treuliodd Debbie flynydd…

Katie Phillips

Mae Katie yn fyfyriwr MSc Cymdeithas, Amgylchedd, a Newid Byd-eang yn ddiweddar ac mae ganddi radd (…

Yusuf Ibrahim

Mae Yusuf Ibrahim yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn aelod o’r Black Leade…