English | Cymraeg

Richard Monteiro

Cydymaith Alwmni

Pennaeth Ffederasiwn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor yn Sir Ddinbych yw Richard Monteiro. Mae ganddo brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid ac mae wedi cydweithio ag Estyn ar astudiaethau achos am arddulliau arwain mewn ysgolion ffedereiddio. Mae Richard hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru fel rhan o grŵp peilot ar y pecyn cymorth Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.

Fel Cydymaith, mae Richard wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys cyd-ysgrifennu a dylunio comisiwn carfan 2 sy’n archwilio rôl arweinyddiaeth addysgol a’i berthynas â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ac mae e wedi hwyluso profiadau dysgu ar gyfer Cymdeithion yn garfan 3. Mae hefyd wedi cyfrannu at y prosesau cymeradwyo a sicrhau ansawdd. Hoffai Richard weld yr Academi Arweinyddiaeth yn parhau i feithrin perthynas â rhanddeiliaid yn y system er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.

Mae Richard yn mwynhau byw yng Ngogledd Cymru, cerdded yn y mynyddoedd, ymweld â’r traethau a gwerthfawrogi’r rhan hardd o’r byd y mae’n byw ynddo.

ysgolgellifor.com

ysgolbrynclwyd.com

 @ysgolgellifor

@brynclwyd

Richard Monteiro

Cymdeithion Alwmni

Gweld y Cyfan
Trefor Jones

Cydymaith Alwmni

Tania Rickard

Cydymaith Alwmni

Sarah Coombes

Cydymaith Alwmni