Skip to main content
English | Cymraeg

Matthew Dunn

Cydymaith

Hyfforddodd Matthew Dunn fel athro Saesneg yn 2004 cyn mynd ymlaen i fod yn Bennaeth Saesneg. Ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol St Richard Gwyn yn Y Barri ar ôl bod yn Uwch Arweinydd am dros ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ymgymryd â nifer o gyfrifoldebau gan ganolbwyntio ar y Cwricwlwm ac Addysgu a Dysgu yn ogystal â gweithio gyda’r rhai mwy abl a thalentog. Mae’n mwynhau gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, gyda darpariaeth Ôl-16 wrth weithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fel rhan o’r Bartneriaeth Ysgolion Rhyng-Wladwriaeth gyda Choleg Wellington; cysylltiad a sefydlodd yn ei ysgol bresennol a blaenorol. Cwblhaodd ei gymhwyster CPCP yn 2021. 

Daeth Matthew yn Gydymaith oherwydd y cyfleoedd anhygoel i ddysgu. Mae’n cydnabod, er mwyn i bobl ifanc ddod yn unigolion moesegol a gwybodus, uchelgeisiol a galluog, mentrus ac iach, bod yn rhaid i system Addysg Cymru gael arweinyddiaeth lwyddiannus ar bob lefel.  Mae Matthew yn angerddol am ddysgu proffesiynol a rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i ddisgyblion yng Nghymru. Ganwyd Matthew yn Sbaen, treuliodd ei hafau prifysgol yn America yn dysgu chwaraeon a blwyddyn yn dysgu Saesneg fel iaith dramor yn Ne-ddwyrain Asia. Bu’n gweithio am gyfnod byr ym maes cyhoeddi cyn dechrau ei TAR. Cyfarfu â’i wraig yn y brifysgol ac mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda’i dri phlentyn. 

Matthew Dunn

Cwrdd â Charfan 6

Gweld y Cyfan
Martin Evans

Cydymaith

Siân Ross

Cydymaith

Rhys Buckley

Cydymaith