Ar ôl cwblhau BEd mewn Astudiaethau Addysg o Brifysgol Exeter a TAR Cynradd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, dechreuodd Rhys ei gyrfa addysgu yn Hounslow, De-orllewin Llundain mewn ysgol gynradd fawr, tri dosbarth. Tra yn Llundain, dysgodd o amrywiaeth o grwpiau blwyddyn a chafodd wobr ‘Teach In London’ am ei waith gyda phlant o gefndiroedd difreintiedig. Ar ôl pedair blynedd, symudodd Rhys i’r gorllewin i Fryste lle, dros ddeng mlynedd yn gweithio ym Mryste a De Gaerloyw, cymerodd amryw o rolau arwain cyn dod yn Bennaeth yn 2017. Yn Hydref 2021 dychwelodd i’w sir enedigol, Sir Benfro, i ddod yn Brifafthro Ysgol Gynradd Cleddau Reach.
Y tu allan i’r gwaith, mae Rhys yn mwynhau bod yn egnïol ac herio ei hun. Yn y blynyddoedd ers iddo fo orffen chwarae rygbi, mae o wedi ymgymryd â marathonau, hanner marathonau, yr her 24 awr 3 Chopa Genedlaethol ac, yn fwyaf diweddar, pob un o’r 186 milltir o Lwybr Arfordir Penfro mewn saith diwrnod. Mae o hefyd wedi dod yn ymddiriedolwr Mind Pembrokeshire yn ddiweddar ac mae’n edrych ymlaen at gefnogi pobl ifanc yn y sir sy’n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl.