Mae Martin Evans yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Pontardawe a chyn hynny yn bennaeth ar Ysgol Gwaun Cae Gurwen ac Ysgol Cwmgors. Mae o wedi bod yn dysgu ers 2002 ac yn arolygydd Cymheiriaid ESTYN ers 2011. Mae o wedi bod yn bennaeth ym Mhontardawe ers Medi 2021 a chafodd yr ysgol arolwg ESTYN ym Mai 2022, lle nodwyd bod yr ysgol wedi datblygu cwricwlwm cyfoethog yn sgil paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. O ganlyniad, gofynnwyd i’r ysgol i lunio astudiaeth achos am hwn. Mae’n ysgol sydd yn fywiog a chynnig llawer o brofiadau cyfoethog i dros 350 o blant. Lleoli’r canolfan trochi iaith Castell Nedd Port Talbot ‘Canolfan Iaith y Cwm’ ar safle’r ysgol.
Mae o hefyd yn gadeirydd ar glwstwr ysgolion Ystalyfera ac yn fentor ar benaethiaid newydd. Mae Martin yn angerddol at ddatblygu staff yn broffesiynol ar bob lefel a sefydlu diwylliant cynhwysol ar gyfer lles staff a disgyblion.
Mae’n edrych ymlaen yn fawr at archwilio syniadau a rhwydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru trwy ddylanwadu ar waith a gomisiynwyd. Mae o’n byw ar gyrion Cwmtawe gyda’i wraig a thair merch. Mae’r merched yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg o fewn ei gymuned. Yn ei amser sbâr, mae’n hoffi cerdded gyda’r ci ac ymlacio yn y garafán yn Aberaeron. Mae o hefyd yn ffan fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd ‘Crossfit’, a gwylio pêl droed yr Elyrch pan mae’n gallu.