Skip to main content
English | Cymraeg

Emma Lippiett

Cydymaith

Mae Emma’n gweithio yn y sector Addysg Bellach fel Pennaeth Cyfadran ar gyfer Lefel A a Sgiliau yng Ngholeg Sir Benfro. Cyn dychwelyd adref i Sir Benfro a symud i addysg bellach, roedd Emma yn gweithio mewn ysgolion uwchradd yn Lloegr fel Pennaeth Adran a Phennaeth y Chweched Dosbarth. 

Mae Emma yn teimlo’n angerddol y dylai llenyddiaeth academaidd ac ymchwil weithredu lywio penderfyniadau mewn addysg i ysgogi gwelliant. Mae ei chyfranogiad blaenorol yn y Prosiect Ymholiadau Ôl-16 Cenedlaethol a chwblhau ei MSc mewn Seicoleg Addysg wedi llunio ei gwaith hyd yma. Mae Emma yn gyffrous i gael y cyfle fel Cydymaith i ddatblygu fel arweinydd, i gydweithio ymhellach gyda chydweithwyr, ac i lywio ymarfer ledled Cymru. 

Mae Emma’n byw mewn pentref bach yn Ne Sir Benfro gyda’i phartner a’i dau gi. Mae Emma’n mwynhau cerdded, caiacio, darllen, ac yn ddiweddar mae hi wedi darganfod cariad at geisio tyfu ei ffrwythau a’i llysiau ei hun. 

 

Emma Lippiett

Cwrdd â Charfan 6

Gweld y Cyfan
Martin Evans

Cydymaith

Siân Ross

Cydymaith

Rhys Buckley

Cydymaith