Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn awyddus i gefnogi darparwyr i greu dulliau newydd ac arloesol o ddatblygu arweinyddiaeth addysgol. Arloesedd o ran datblygu arweinyddiaeth addysgol yw creu, datblygu a gweithredu darpariaeth ddatblygiadol ‘newydd’, gyda’r nod o fod yn:
ac sy’n darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o ansawdd i bawb.
Dylid cadw at y meini prawf sydd yng Nghanllawiau Cymeradwyo Darpariaeth Datblygu Arweinyddiaeth wrth arloesi gyda darpariaeth newydd ar gyfer arweinyddiaeth addysgol.
Bydd angen i’r ddarpariaeth ddangos hefyd sut y bydd, dros amser, a thrwy’r camau datblygu, yn casglu’r dystiolaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r meini prawf effaith a nodir ym maes pedwar a sicrhau cynaliadwyedd y tu hwnt i’r flwyddyn gychwynnol. Dylai’r ddarpariaeth ddangos y model dasg iterus ar gyfer gwelliant. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn disgwyl i’r darparwr gynnig ei ddarpariaeth ar gyfer cymeradwyaeth.
Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn ystyried cefnogi darparwyr yn ariannol i ddatblygu darpariaeth sy’n ‘newydd’ ac sy’n bodloni’r meini prawf sydd yng Nghanllawiau Cymeradwyo Darpariaeth Datblygu Arweinyddiaeth.
Ar gyfer pob ymholiad, ac i gyflwyno’ch cais cysylltwch â post@agaa.cymru.
Rydym yn cyflwyno cyfres arloesedd blynyddol er mwyn ysgogi meddwl a gweithredu arloesol ymhlith arweinwyr addysgol fel y gallant ddatblygu diwylliant o arloesi, gan helpu eraill i feddwl yn wahanol a gweithio mewn ffyrdd newydd. Mae cyfresi blaenorol wedi’u cynllunio a’u hwyluso mewn cydweithrediad â’r Cymdeithion a Larry Shulman, Ymgynghorydd Arloesedd, Arwain a Newid. Roedd yr ail gyfres, a hwyluswyd gan Larry Shulman, yn canolbwyntio ar yr ‘Arweinydd Arloesol’ ac roedd dros 70 o arweinwyr addysgol o bob rhan o Gymru yn bresennol. Defnyddiwyd y gyfres fel platfform ar gyfer deialog proffesiynol gyda chydweithwyr, i roi lle i adfyfyrio ac i ysgolion a sefydliadau wneud cais am gyllid tuag at ‘Feddwl Arloesol ar Waith’. Roedd rhai enghreifftiau o’r darnau o waith ‘Meddwl Arloesol ar Waith’ yn cynnwys prosiectau cymunedol, mentrau Cwricwlwm i Gymru a Gwella Andragogeg – Dealltwriaeth ac Ymarfer.
Cynlluniwyd y drydedd Gyfres Arloesedd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru ac Apple Education ac roedd yn canolbwyntio ar ‘Arwain Arloesedd Digidol’.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith arloesedd.