Skip to main content
English | Cymraeg

Lles

Ysgol Glanrafon

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad ag Olwen Corben, Pennaeth Ysgol Glanrafon, a glywodd am y Grant Arloesedd trwy ddarllen ein cylchlythyr, Cyswllt, a darganfod manteision datblygu a gwella arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, gwneir mwy o arloesiadau digidol mewn nifer o ddiwydiannau y gellid eu defnyddio gan addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd. Gwelodd Ysgol Glanrafon ein Grant Arloesedd fel cyfle i fynd i’r afael â rhai rhannau o’r ysgol lle gellid ychwanegu arloesedd digidol. Eglura Olwen: “O’r hyn a welem, gallem weld bod angen pwyslais clir ar ddatblygu arloesedd digidol o fewn yr ysgol. Mae rhai staff yn fwy hyderus nag eraill o ran technoleg newydd ac mae’n anodd neilltuo amser i addysgu athrawon a dysgwyr.

Roeddem yn gallu gweld bod dysgwyr o gyfnod meithrin i Flwyddyn 2 yn defnyddio rhaglen yn achlysurol yn hyderus a bod mwy o dechnoleg yn cael ei defnyddio rhwng Blynyddoedd 3 a 6. Ein cynllun ar gyfer y Grant Arloesedd oedd archebu offer digidol newydd i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg o fewn gwersi a rhoi’r hyfforddiant a’r hyder sydd eu hangen ar athrawon i ddefnyddio’r dechnoleg newydd o fewn y cwricwlwm.”

 

Y Fethodoleg

Ar ôl derbyn y Grant Arloesedd, y camau cyntaf oedd trefnu gweithgareddau gyda chymorth cydlynydd yr ysgol. Dywedodd Olwen fod hwn yn brofiad cyffrous iawn, i staff a dysgwyr gan fod y cyllid yn galluogi’r ysgol i brynu Chromebooks a darparu’r adnodd i alluogi staff i gael hyfforddiant drwy Aspire2Be yn y maes newydd hwn. Daeth y prosiect ar draws rhai heriau, sydd i’w disgwyl fel gydag unrhyw brosiect arall. Ymhelaetha Olwen: “Roedd cadw at yr amserlen a gynlluniwyd ymlaen llaw ar gyfer y prosiect yn anodd oherwydd natur bywyd bob dydd mewn ysgol. Roedd hyn hefyd yn golygu bod sicrhau amser i staff gynllunio a datblygu eu sgiliau technoleg yn heriol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i gyflawni’r prosiect a hyd yn hyn, mae wedi gwella profiadau dysgu’r dysgwyr.”

 

Y Canlyniadau

Mae taith arloesi ddigidol Ysgol Glanrafon yn parhau. Mae’r ysgol wedi dechrau gweld sut y gall arloesi digidol fod o fudd i ddysgu disgyblion, ac felly wrth i’r prosiect barhau, bydd y manteision a’r canlyniadau cadarnhaol hyn yn gwella a datblygu ymhellach. Mae Olwen yn ymhelaethu: “Er nad yw’r prosiect wedi’i orffen eto, rydym yn parhau i ddefnyddio’r cyllid i ddod â thechnolegau arloesol i’n hystafelloedd dosbarth. Rydym yn gobeithio yn y dyfodol y gallwn gynnal cystadlaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) i sicrhau ymgysylltiad a chyffro pellach i ddysgwyr ar gyfer arloesi digidol.”

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Glanrafon. Mae’r ysgol yn bwriadu rhannu canlyniadau eu prosiect ag ysgolion eraill ac yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at gydweithio rhwng yr ysgolion hefyd. Er y bydd y prosiect penodol hwn yn dod i ben yn y pen draw, mae’r ysgol yn bwriadu parhau â’u taith arloesi ddigidol trwy gynllunio heriau tymhorol sy’n cynnwys eu hoffer a’u technoleg newydd yn ogystal â pharhau a chwblhau’r cwrs Aspire2B.

 

Cyngor i Eraill

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi, eglura Olwen: “Roedd yn rhwydd iawn gwneud cais am y cyllid ac mae’n annog eraill i ddechrau ar eu taith arloesi digidol; daeth yn ffordd lwyddiannus o hyrwyddo ein cwricwlwm yn gadarnhaol.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos