Skip to main content
English | Cymraeg

Dysgu Gyda’n Gilydd Gan Rannu Arferion Da

Ysgol Bodhyfryd

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Catrin Penge, Dirprwy Bennaeth Ysgol Bodhyfryd, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd drwy fynychu ein cyfres Arloesedd Digidol. Yma, cafodd wybod am fanteision datblygu a gwella arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Sylweddolodd staff addysgu ar draws Ysgol Bodhyfryd fod cyfrifoldeb ac angen cynyddol i ymgorffori arloesedd digidol o fewn cwricwlwm yr ysgol. Felly, roedd yr ysgol eisiau sefydlu grŵp technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a oedd yn cynnwys athrawon a chynorthwywyr addysgu i fapio’r cwricwlwm newydd a’r cynlluniau TGCh y gellid eu cyflawni gyda’r Grant Arloesedd. Eglura Catrin: “Cynigiais ddefnyddio’r grant i brynu adnoddau a fyddai’n sbardun ar gyfer gweithgareddau ym mhob adran. Roedd yr adnoddau hyn yn cynnwys camerâu digidol i’w gosod mewn blychau adar a’r tŷ draenog yn ein hystafell ddosbarth awyr agored, yn ogystal ag offer fideo sgrin werdd a goleuadau, drôn ar gyfer mapio ein hysgol, Stick Bots a standiau iPad.”

Cafodd hyn ei gydblethu â methodoleg addysgu’r ysgol “Dysgu ar sail Ymholiad”, y syniad y tu ôl i hyn yw y byddai dysgwyr yn defnyddio eu syniadau a’u methodoleg meddwl i ymdrin â chysyniadau neu gwestiynau mawr sy’n rhan o’n bywydau. Aeth Catrin ymlaen: “Byddai’r cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i ryddhau staff i ddysgu am yr offer a sut i’w ddefnyddio cyn gweithredu prosiectau ymchwiliol a chreadigol gyda’r dysgwyr.”

 

Y Fethodoleg

Ar ôl derbyn y Grant Arloesedd, ffurfiwyd y grŵp arloesi digidol o dan arweiniad Rhiannon Williams, sy’n goruchwylio prosiectau’r grŵp, ac wyth aelod yn cynnwys athrawon a chynorthwywyr addysgu. Camau cyntaf y prosiect oedd cael sgwrs gyda Phrif Swyddog TGCh y sir a fyddai’n arwain wedyn at benderfynu pa offer a syniadau i’w gweithredu a hyfforddiant i’r staff sy’n rhan o’r prosiect. Gyda chymorth ein Grant Arloesedd, roedd Ysgol Bodhyfryd yn gallu prynu’r offer angenrheidiol i wireddu syniadau disgyblion a defnyddio arloesedd digidol o fewn yr ysgol.

Ar ôl rhywfaint o oedi cychwynnol gyda danfoniadau a gosodiadau, mae’r arloesedd digidol bellach yn rhedeg yn llyfn. Cadarnhaodd Catrin: “Fe achosodd yr oedi rywfaint o golli momentwm sy’n hanfodol mewn prosiect fel hwn, ond ers i ni dderbyn yr offer mae’r prosiectau wedi bod yn mynd yn eu blaenau yn effeithiol ac rydym yn gwneud i fyny am yr amser a gollwyd.”

 

Y Canlyniadau

Er gwaethaf rhywfaint o oedi, mae’r Grant Arloesedd wedi galluogi Ysgol Bodhyfryd i ymgorffori mwy o arloesi digidol o fewn cwricwlwm yr ysgol. Mae’r cyllid wedi galluogi disgyblion i fod yn greadigol a defnyddio offer digidol i feddwl yn wahanol am y byd o’u cwmpas. Eglura Catrin: “Mae’r sgrin werdd a’r offer Stick Bot wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu gwaith i ddathlu dysgu dysgwyr o fewn eu thema ymchwiliol. Mae ardal barhaol hefyd wedi’i chreu i storio offer er mwyn gwella mynediad a symleiddio’r broses. Mae pawb yn yr ysgol yn ymwybodol o’r tîm arloesi digidol ac yn hapus ac yn barod i ofyn a rhannu syniadau.” Bydd camau nesaf y prosiect yn cynnwys ymgymryd â’r prosiectau tŷ adar a dronau i ehangu defnydd yr ysgol o TGCh ar gyfer ymchwil awyr agored.

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Bodhyfryd. Dywedodd Catrin: “Ar gyfer camau nesaf y prosiect, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r offer digidol ar draws yr ysgol gyfan. Byddwn hefyd yn datblygu swyddogaethau a syniadau ein grŵp arloesi digidol ac yn rhannu arferion da, yn ogystal â gwaith y dysgwyr trwy ddathliadau dysgu.” Mae Catrin hefyd yn gobeithio trafod a rhannu effaith gadarnhaol y prosiect gyda’u hysgolion clwstwr yn yr ardal leol fel y gellir eu hysbrydoli hefyd i wneud cais am y Grant Arloesedd. Meddai Catrin: “Gall y grant gael effaith sylfaenol a thrawiadol os yw’r seilwaith a’r gefnogaeth ar gael.”

 

Cyngor i Eraill

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cefnogi llawer o sefydliadau addysgol ar eu taith arloesi, ac yn ôl Catrin: “Roedd yn rhwydd iawn gwneud cais am y cyllid ac arweiniodd at ddatblygu syniadau gwych a rhoddodd y cymhelliant ar gyfer eu gweithredu a’u gwireddu yn ein hysgol. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol bod arloesedd digidol yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr a staff, a dyna pam y dylai fod yn flaenoriaeth i addysgwyr eraill hefyd.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos