Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.
Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.
Buom yn siarad â Naomi Edwards, athrawes ddosbarth yn Ysgol Gynradd Ynystawe, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd drwy ein cyfres Arloesedd Digidol a sut y cafodd wybod am fanteision datblygu a gwella arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.
Ar ôl y pandemig, roedd Ysgol Gynradd Ynystawe eisiau canolbwyntio eu prosiect ar ddatblygu annibyniaeth a chydnerthedd dysgwyr a darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant staff. Byddai eu harloesedd digidol yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â system ‘Chwilfa’. Eglura Naomi: “O’r cyfnod Meithrin i Flwyddyn Chwech, bydd y Chwilfeydd hyn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau annibynnol, cydnerthedd a meddwl trwy ‘heriau’ annibynnol a gynllunnir. Byddwn yn mapio sut mae hyn yn datblygu o’r cyfnod Meithrin i Flwyddyn Chwech, gan ganolbwyntio’n bennaf ar sut y gellir defnyddio codio er mwyn i ddysgwyr weithio’n ymarferol ac yn annibynnol.”
Roedd cyllid blaenorol wedi galluogi aelod o staff i gael hyfforddiant ar Bee-bots, Blue-Bots ac Ohbots ac fel rhan o’r prosiect roedd yr ysgol am weithredu hyn yn y cwricwlwm fel y gallai dysgwyr gael mwy o gyfleoedd i roi cynnig ar dechnolegau newydd fel rhan o’u taith ddysgu.
Ar ôl derbyn ein Grant Arloesedd, aeth Ysgol Gynradd Ynystawe yn syth ati i gychwyn ar eu taith arloesi ddigidol. Gan fod aelod o staff eisoes wedi’i hyfforddi yn y maes hwn, roedd ganddynt well syniad o sut i roi cyfleoedd cydnerthedd ac arloesi ar waith yn y cwricwlwm. Defnyddiwyd y grant i ariannu offer a allai wedyn greu’r cyfleoedd hyn i bob dysgwr o’r cyfnod Meithrin hyd at Flwyddyn Chwech. Ymhelaethodd Naomi: “Fe ddefnyddiom Bee-bots, Blue-bots ac Ohbots, yn ogystal ag ystod o adnoddau ategol, a fyddai’n darparu ystod o gyfleoedd i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth godio a chael cyfleoedd ymarferol cyffrous i weithio’n annibynnol.”
Fe wynebodd y prosiect rai heriau; y brif her oedd diffyg hyfforddiant staff ym maes codio a’r cyfyngiadau amser i ddarparu’r hyfforddiant hwn i aelodau staff. Ar y dechrau darparwyd sesiynau hyfforddi i rannu’r syniadau ar gyfer y prosiect a’r ffyrdd ymlaen ar gyfer yr ysgol gyfan. Ond cafodd y rhwystr hwn ei oresgyn yn gyflym. Dywedodd Naomi: “Fe wnaethom ddatblygu hyder a dealltwriaeth staff trwy ddefnyddio cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a oedd eisoes yn hyderus ym maes codio i fynd o ddosbarth i ddosbarth yn cynnal gweithgareddau bach gyda dysgwyr. Yna gallai staff ddysgu trwy arsylwi a chymryd rhan ochr yn ochr â’r dysgwyr.”
Ers derbyn y Grant Arloesedd, mae Ysgol Gynradd Ynystawe wedi gallu datblygu creadigrwydd ymhlith aelodau staff, gan alluogi iddynt fod yn fwy arloesol yn y ffyrdd y maent yn dysgu cysyniadau penodol. O ganlyniad, maent yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg ac yn gallu gweld y manteision i’w haddysgu nhw ac i’r dysgwyr. Mae gosodiad a threfn yr ystafell ddosbarth hefyd wedi esblygu i alluogi dysgu mwy annibynnol, sef prif nod y prosiect. Trwy ariannu a phrynu offer newydd, mae mathemateg bellach yn cael ei dysgu trwy godio ac mae datblygiad iaith, llafaredd a Chymraeg, yn cael eu haddysgu trwy amrywiol adnoddau’r cyfryngau. Mae Ysgol Gynradd Ynystawe wir wedi elwa ar arloesi digidol, fel y mae Naomi yn cadarnhau: “Mae codio wedi darparu cyfleoedd i ‘ddatblygu’r holl staff fel arweinwyr’. Mae addysgu a dysgu yn esblygu’n gyson ac mae pwysigrwydd yr holl staff yn ysgwyddo cyfrifoldebau ac arwain sectorau penodol yn bwysicach nag erioed. Bellach mae gennym ystod o brofiadau o ran hyfforddi athrawon a chynorthwywyr addysgu.”
Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin yn Ysgol Gynradd Ynystawe. Mae’n bwysig cyflwyno dysgwyr i dechnolegau newydd fel codio i wella eu profiad dysgu, ond hefyd i sicrhau eu bod yn cael hwyl ac yn ymgysylltu. Mae hyn yr un mor wir am athrawon; gall bod ag athro llawn cyffro a hyder sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle gorau i ddatblygu eu sgiliau mewn maes newydd. Mae’r ysgol hyd yn oed wedi cael cyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth roboteg o ganlyniad i’w sgiliau newydd mewn codio. Dywedodd Naomi: “Rydym wedi dechrau gweithio gyda grŵp o ddysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) i ddatblygu codio fel gweithgaredd allgyrsiol. Mae’r grŵp hwn yn gweithio’n agos gydag arweinydd MDPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac maent yn datblygu Chwilfeydd yn seiliedig ar wahanol bynciau. Bydd y plant hyn yn dod yn arbenigwyr ac ymhen amser yn rhannu eu gwybodaeth trwy addysgu plant eraill ar draws yr ysgol.”
Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi, ac yn ôl Naomi: “Mae technoleg ddigidol yn esblygu drwy’r amser yn y byd go iawn ac mae gan ymarferwyr yn y sector addysg gyfrifoldeb allweddol wrth ddarparu cyfleoedd a pharatoi dysgwyr ar gyfer gweithio yn yr oes ddigidol. Fel sector addysg, mae angen i ni roi profiadau a chyfleoedd i ddysgwyr weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn maes gwaith sy’n esblygu’n barhaus.”