Un o’n dibenion craidd yw cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu cydlyniad a sicrhau ansawdd ar gyfer ystod o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol trwy broses gymeradwyo a arweinir gan gymheiriaid.
Pan fyddwn yn cymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth, rydym yn datgan bod gennym hyder yng ngallu’r darparwr i ddatblygu a darparu ansawdd. Mae statws arnodedig yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dangos bod y darparwr wedi bodloni’r meini prawf cymeradwyo a’r safonau uchel y mae’n eu mynnu gan ddarparwyr. Mae’n rhoi sicrwydd i arweinwyr bod y ddarpariaeth y maent yn buddsoddi ynddi yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i’r ddarpariaeth sydd wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar hyn o bryd a’r darparwyr sy’n cynnig y dysgu proffesiynol hwn.
Stori Arweinyddiaeth: Nick Allen Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot Pwy neu beth wnaeth e…
Astudiaeth Achos ar Bresenoldeb Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe, Castell Nedd Port Talbot Cefndir: …
Stori Arweinyddiaeth: Nick Hudd Fe wnaethom gyfweld â Nick Hudd, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, …