Yn 2020, cyhoeddodd Cymdeithion o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol adroddiad comisiwn a oedd yn archwilio’r cwestiwn:
‘Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus?’.
Arweiniodd y comisiwn hwn at gyfres o argymhellion i’w hystyried ar lefel genedlaethol. Un oedd sicrhau fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer datblygiad y Gymraeg o fewn y sector addysg gan roi ystyriaeth i’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hyn, sefydlwyd yr Adnodd Hunan-werthuso mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Estyn, Awdurdodau Lleol a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Bwriad yr adnodd yw annog penaethiaid i ystyried datblygiad y Gymraeg yn eu hysgol a mapio eu darpariaeth ar gyfer symud y Gymraeg ymlaen yn strategol ac yn ymarferol. Gellir ei ddefnyddio gan ysgolion ochr yn ochr â’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella (NR:EI). Rhennir yr adnodd yn dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol; arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a chwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.
Bu saith ysgol yn rhan o dreialu’r Adnodd Hunanwerthuso hwn ac mae pob ysgol wedi dewis maes ffocws o ran y Gymraeg ac wedi mynd ati i ateb y cwestiynau fel rhan o’u proses gwella ysgol.
Rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol oedd cefnogi’r penaethiaid yn y broses o ddehongli’r cwestiynau wrth gynnig cymorth ymarferol a thrafod pa adnoddau posibl allai fod o gymorth wrth dreialu’r adnodd. Rhannwyd cyfres o gwestiynau pellach sy’n gofyn i’r ysgolion peilot ystyried gwerth yr adnodd ac adnabod unrhyw gryfderau ac anfanteision.
Yn dilyn y peilot bydd pob ysgol wedi drafftio strategaeth gyda’r nod o hybu a datblygu’r Gymraeg. Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r ysgolion wedi cynhyrchu astudiaethau achos i rannu arfer dda ag ysgolion eraill ledled Cymru.
Ym Maes Derw, rydym yn creu amgylchedd diogel a gofalgar sy’n datblygu dinasyddion annibynnol, gwydn a chyfrifol yn y gymuned leol ac yn ehangach. Rydym yn sicrhau disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad mewn amgylchedd sy’n ennyn diddordeb dysgwyr trwy gwricwlwm cyfoethog a chreadigol sy’n briodol i’w hanghenion unigol. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi llwyddiant unigol ac yn galluogi pob dysgwr i gyrraedd eu nodau unigol. Rydym yn darparu pecyn cymorth pwrpasol i bob dysgwr a’i deulu er mwyn galluogi pob dysgwr i gyflawni llwyddiant personol yn eu dysgu ac i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, yn academaidd ac yn gymdeithasol yn y dyfodol.
Mae Maes Derw yn Uned Cyfeirio Disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion rhwng 5 ac 16 oed sy’n profi anawsterau’n ymwneud â materion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, iechyd meddwl a gorbryder. Ym mis Chwefror 2021 ailenwyd yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn Maes Derw a symudodd pob canolfan i un safle mewn adeilad newydd sbon a phwrpasol o dan strwythur staffio newydd. Yn 2024 cafodd gwasanaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY) adolygiad o’r model a’r gwasanaeth gydag egwyddorion allweddol wedi’u nodi. Bydd strwythur staffio newydd yn cael ei weithredu o 1 Medi 2024 gyda newidiadau hirdymor i’w gweithredu a’u datblygu gyda’r holl randdeiliaid.
Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth wedi’i rannu’n ddwy ddarpariaeth yn seiliedig ar y prif rwystr i ddysgu i ddisgyblion.
Ystyrir Anawsterau Cymdeithasol Emosiynol ac Ymddygiadol (ACEY) neu Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (CEIM) y dysgwyr. Mae’r ddarpariaeth yn rhan o’r argymhelliad a wnaed gan baneli arbenigol. Atodir ein capasiti cyfredol isod: (yn amodol ar newid trwy ddatblygu’r model newydd)
O’r disgyblion sy’n mynychu, mae gan 100% Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a nodwyd; mae 9% o blant yn derbyn gofal ac mae 65% yn gymwys am brydau ysgol am ddim. O’r garfan gyffredinol, mae 76% yn fechgyn o’i gymharu â 24% o ferched. Mae 3% o ddisgyblion yn cael eu cyfeirio o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond nid oes yr un disgybl o deuluoedd Cymraeg eu hiaith.
Cwestiwn trafod: pa mor dda y mae arweinwyr yn cefnogi staff ac yn defnyddio adnoddau’n effeithiol?
Yn ystod y broses ail-strwythuro mae wedi ein helpu i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan anghenion i ad-drefnu ein staffio, strwythur, dyrannu adnoddau a defnyddio arbenigedd yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion ac mewn ysgolion prif ffrwd. Rydym yn deall anghenion disgyblion a’r hyn sydd gennym i’w cefnogi.
Mae’r Adnodd Hunanwerthuso’r Gymraeg yn darparu llawer o arweiniad, sydd i gyd yn hynod ddefnyddiol a gallwn ystyried gwahanol gyfeiriadau wrth i ni eu harchwilio ymhellach. Yn y cyd-destun hwn roedd canolbwyntio ar un maes yn ein helpu i ymchwilio’n fanylach i’r adnoddau sydd ar gael. Roedd yn ein cynorthwyo i feddwl am ein prosesau hunan arfarnu presennol.
Cysylltiadau defnyddiol: Cynllunio ar gyfer datblygu darpariaeth Gymraeg: elfen orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru
Gwnaethom ganfod bod y cwestiynau isod yn ein herio’n bwrpasol yn enwedig wrth ystyried datblygu’r gweithlu a pharodrwydd staff i ddatblygu sgiliau disgyblion.
O ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn, ein canfyddiadau allweddol yw’r angen i ni archwilio ymhellwch a deall yn well sut mae ein prosesau hunanwerthuso presennol yn gweithio. Gallai’r fframwaith cymhwysedd iaith cenedlaethol fod yn offeryn ardderchog i asesu staff a disgyblion. Gellir darparu data clir ar linell sylfaen a chynnydd iaith ar bob lefel. Nid oes gennym arweinydd iaith Gymraeg, mae hyn yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. Un her rydym yn ei hadnabod yw’r angen am staff i arwain ar bob maes sydd angen canolbwyntio arno. Dyma lle mae angen gweithio ar y cyd ar draws Unedau Cyfeirio Disgyblion rhanbarthol eraill ac ysgolion prif ffrwd lleol.
Mae llawer o ddisgyblion yn mynd i mewn i’r Uned Cyfeirio Disgyblion gydag oedrannau darllen sylweddol is na’u hoedran cronolegol. Mae ganddynt fylchau mawr mewn addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol y mae angen eu cefnogi. Mae blaenoriaethu eu datblygiad o’r Saesneg wedi cael ei wneud eisoes. Mae angen i ni ddatblygu ffyrdd o gefnogi cynnydd sgiliau amlieithog dysgwr yn ofalus ar yr un pryd â chefnogi a blaenoriaethu eu hanghenion holistig a lles.
Ar hyn o bryd mae gennym 5 disgybl o ysgolion Cymraeg eu hiaith wedi’u cyfeirio at yr Uned Cyfeirio Disgyblion.
Pa mor hyderus ydych chi i siarad Cymraeg yn yr ysgol?
Pa mor hyderus ydych chi i siarad Cymraeg gartref?
Mae’r canfyddiad o iaith, profiadau negyddol blaenorol a disgyblion sy’n dod o aelwydydd di-Gymraeg i gyd yn cyfrannu at yr adborth hwn. Mae ymgysylltu â rhieni mewn unrhyw ymyriadau a strategaethau yn allweddol wrth symud ymlaen.
Dim ond 68% o staff a dderbyniodd eu haddysg statudol eu hunain yng Nghymru. Nid yw 30% o staff erioed wedi derbyn unrhyw wersi neu sesiynau gan diwtoriaid Cymraeg. Roedd yr adborth hwn yn gadarnhaol iawn ac mae’n dangos nad ydym yn defnyddio’r arbenigedd sydd gennym eisoes. Mae canfyddiad a disgwyliad ymhlith staff mai dim ond siaradwyr rhugl neu Athrawon Cymraeg a all yrru hyn. Mae angen i ni fagu hyder mewn staff yn debyg iawn i ddisgyblion, ac adeiladu ethos o ‘ddysgu gyda’n gilydd’.