Yn 2020, cyhoeddodd Cymdeithion o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol adroddiad comisiwn a oedd yn archwilio’r cwestiwn:
‘Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus?’.
Arweiniodd y comisiwn hwn at gyfres o argymhellion i’w hystyried ar lefel genedlaethol. Un oedd sicrhau fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer datblygiad y Gymraeg o fewn y sector addysg gan roi ystyriaeth i’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hyn, sefydlwyd yr Adnodd Hunan-werthuso mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Estyn, Awdurdodau Lleol a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Bwriad yr adnodd yw annog penaethiaid i ystyried datblygiad y Gymraeg yn eu hysgol a mapio eu darpariaeth ar gyfer symud y Gymraeg ymlaen yn strategol ac yn ymarferol. Gellir ei ddefnyddio gan ysgolion ochr yn ochr â’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella (NR:EI). Rhennir yr adnodd yn dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol; arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a chwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.
Bu saith ysgol yn rhan o dreialu’r Adnodd Hunanwerthuso hwn ac mae pob ysgol wedi dewis maes ffocws o ran y Gymraeg ac wedi mynd ati i ateb y cwestiynau fel rhan o’u proses gwella ysgol.
Rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol oedd cefnogi’r penaethiaid yn y broses o ddehongli’r cwestiynau wrth gynnig cymorth ymarferol a thrafod pa adnoddau posibl allai fod o gymorth wrth dreialu’r adnodd. Rhannwyd cyfres o gwestiynau pellach sy’n gofyn i’r ysgolion peilot ystyried gwerth yr adnodd ac adnabod unrhyw gryfderau ac anfanteision.
Yn dilyn y peilot bydd pob ysgol wedi drafftio strategaeth gyda’r nod o hybu a datblygu’r Gymraeg. Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r ysgolion wedi cynhyrchu astudiaethau achos i rannu arfer dda ag ysgolion eraill ledled Cymru.
Ysgol gyfun gymysg ddwyieithog yw Brynhyfryd i ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Addysg Sir Ddinbych. Mae ethos dwyieithog yr ysgol yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Nod Ysgol Brynhyfryd yw cynnig addysg o’r safon uchaf bosibl sy’n ceisio ateb anghenion disgyblion unigol mewn amgylchedd dwyieithog cefnogol a hapus. Anogir pob disgybl i ddatblygu hunan-barch ynghyd ag agwedd gadarnhaol a chyfrifol at fywyd yn gyffredinol. Mae gan yr ysgol werthoedd gwaith cryf a’i nod yw cymell ei holl ddisgyblion i wneud eu gorau glas bob amser.
Caiff yr Adnodd Hunan-werthuso ei rannu’n dair rhan gyda chyfres o gwestyniau i’r Pennaeth ac uwch arweinwyr eu hystyried wrth gychwyn ar eu proses hunan wella. Penderfynwyd canolbwyntio ar y cwestiynau hyn fel maes ffocws i’r peilot:
Cryfder drwy Angenrhaid:
Mae angen rhagor o ddatblygiad yma a cheir cyfyngiad naturiol i’r hyn y gallwn ei wneud i dyfu’r Gymraeg oherwydd gallu’r staff yn y Gymraeg. Mae’r data presennol fel a ganlyn: