Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gymunedol Doc Penfro

LPL GreenYsgol Gymunedol Doc Penfro

Yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr ac yn ystyried lles

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae gan Ysgol Gymunedol Doc Penfro dros 650 o ddisgyblion ar y gofrestr, darpariaeth Dechrau’n Deg a Chanolfan Adnoddau Dysgu. Nodwyd bod gan 21% o ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae gan 0.47% o’n disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae gan 2% o blant Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae gan 38% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd (cyfartaledd tair blynedd 30%).

 

Dull a ddilynwyd

Cyflwynodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro yr wythnos anghydamserol ym mis Medi 2018, er mwyn treblu’r amser dysgu proffesiynol (heb unrhyw gost ychwanegol) a rhoi amser arbennig i les staff bob yn ail wythnos. Mae cael slotiau hyfforddi rheolaidd wedi galluogi’r ysgol i ganolbwyntio ar hyfforddiant ar gyfer y cwricwlwm newydd a datblygu sgiliau staff mewn meysydd a nodwyd i gefnogi pob dysgwr.

Gwnaethom ddadansoddiad o’r Pedwar Diben o ran cryfderau a meysydd i’w datblygu ar gyfer staff a dysgwyr. Un o’r meysydd i’w datblygu oedd… cael hyder i gymryd rhan mewn perfformiad. Hefyd, roedd dadansoddiad mewnol blaenorol yn dangos mai ychydig iawn o staff oedd â hyder i gyflwyno cerddoriaeth, gan ei fod yn cael ei ystyried yn faes arbenigol.

Dyhead yr ysgol erioed oedd bod pob plentyn yn cael cyfle i chwarae offeryn cerdd. Ar wahân i sesiynau cerddoriaeth gydag offerynnau taro, ychydig iawn o ddysgwyr oedd wedi cael cyfle i ddysgu offeryn cerdd o’r blaen. Dim ond grŵp bach o ddysgwyr Blwyddyn 3 ac uwch oedd yn cael eu dewis ar sail teilyngdod.

Er mwyn codi lefelau arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau’r holl staff, cawsom gyfres o sesiynau wedi’u gwasgaru ar draws y flwyddyn, gyda Sarah Benbow, o Adran Gerdd Awdurdod Lleol Sir Benfro. Y ffocws oedd gwybod y derminoleg gerddorol gywir, a gwybodaeth sylfaenol am gerddoriaeth.

Gan symud ymlaen o’r hyfforddiant cerddoriaeth sylfaenol, fe wnaethom gynnal diwrnod HMS gan atgoffa’n hunain o werth cyfartal pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLEs) ac ystyried ein meysydd datblygu.  Edrychwyd ar y ddogfen hon sy’n defnyddio ymchwil ar brif fanteision dysgu cerddoriaeth:

  1. Mae cerddoriaeth yn hwb i wella ysgolion
  2. Mae cerddoriaeth yn gwella sgiliau dysgu
  3. Mae cerddoriaeth yn meithrin gwaith tîm
  4. Mae cerddoriaeth yn meithrin sgiliau bywyd
  5. Mae cerddoriaeth yn sail i ymddygiad gwell
  6. Mae cerddoriaeth yn annog creadigrwydd
  7. Mae cerddoriaeth am oes
  8. Mae cerddoriaeth yn floc adeiladu addysgol
  9. Mae cerddoriaeth yn hwyl
  10. Mae cerddoriaeth i bawb

Aeth aelod o’r staff ati i ddysgu sut i chwarae’r iwcalili yn ystod y cyfnod clo, a gwelsom fideo o’i chynnydd ar ôl blwyddyn. Yna, rhoddwyd iwcalili’r un i’r holl staff, a’u herio i addysgu eu hunain a’r plant i chwarae’r offeryn, gyda’r nod o berfformio mewn cyngerdd ysgol ym mis Gorffennaf 2022. Hefyd, fe wnaethom brynu digon o iwcalilis i’r dysgwyr gael un rhwng dau yn CA2.

Disgwylir i staff y Cyfnod Sylfaen ddefnyddio’r iwcalili fel rhan o sesiynau cerddoriaeth a chanu i gyfeiliant caneuon syml. Fel menter ysgol gyfan, roedd yn cynnwys ein staff Dechrau’n Deg sydd wedi croesawu’r cyfle i ddysgu offeryn.

Yn ogystal â chynyddu ein harbenigedd mewn cerddoriaeth, roeddem am i’n staff roi eu hunain yn esgidiau ein dysgwyr hefyd wrth ofyn iddyn nhw ddysgu rhywbeth hollol newydd. Unwaith eto, fe wnaeth Sarah Benbow o Wasanaeth Cerdd Sir Benfro gynorthwyo’r staff gyda slotiau hyfforddi rheolaidd a cherddoriaeth newydd i roi cynnig arni.

Yn ogystal â hyfforddiant cerddoriaeth staff ysgol gyfan, rydym wedi symud ymlaen gyda mentrau ysgol gyfan eraill hefyd. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi cwblhau wyth sesiwn o ymwybyddiaeth ofalgar sylfaenol, ac rydym bellach yn defnyddio hyn ar draws yr ysgol fel strategaeth i gefnogi lles.  Rydym wedi neilltuo wythnosau i ddatblygu ein gwaith Cymraeg a thrawsnewid ADY hefyd.

Yn ogystal, mae staff addysgu wedi cael hyfforddiant gan Yr Athrofa ar sut i gynnal ymholiadau ymchwil proffesiynol. Mae’r ysgol bellach ar ei thrydydd cylch o athrawon yn cydweithio gan ddefnyddio’r model ymholi er mwyn ein haddysgu ein hunain am ddatblygiad y cwricwlwm ac addysgeg. Roedd slotiau rheolaidd ar brynhawn dydd Gwener yn amhrisiadwy i gydweithio.

Mae ein cymunedau dysgu proffesiynol AoLE  yn cyfarfod ar brynhawn dydd Gwener hefyd i gynnal eu busnes hunanarfarnu a datblygu ysgol. Mae neilltuo prynhawniau Gwener penodol at hyn yn atal yr angen i dynnu staff o’u dosbarthiadau i fynychu cyfarfodydd yn ystod y diwrnod ysgol.

Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion yn ein clwstwr (Penfro) yn gweithredu’r wythnos anghydamserol hefyd, ac rydym wedi elwa ar gydweithio fel clwstwr, er enghraifft mewn partneriaeth ag Empathy Lab yn meithrin empathi drwy lyfrau a darllen.

Mae’r wythnos anghydamserol wedi treblu’r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar faint o amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer cyfleoedd dysgu proffesiynol cydweithredol, a’r cyfle i’r holl staff addysgu gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ymholiadau a pharatoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ogystal, mae’r slot dysgu proffesiynol rheolaidd hwnnw wedi rhoi cyfleoedd i’r staff uwchsgilio mewn meysydd na fyddem wedi’u hystyried o’r blaen, fel sgiliau cerddorol. Mae hyn wedi cael effaith ar addysgu ac uwchsgilio’r dysgwyr. Bellach, mae pob dysgwr CA2 yn gallu chwarae offeryn cerdd (iwcalili), ac mae llawer yn dewis gwneud hyn mewn grwpiau ac yn annibynnol yn ogystal ag fel dosbarth cyfan. Mae rhai dysgwyr wedi mynd ag ef i lefel arall, gan eu bod wedi cael cymaint o fwynhad wrth ddysgu’r offeryn. Mae holl aelodau’r staff yn gallu chwarae’r iwcalili hefyd!

Pob Astudiaethau Achos