Skip to main content
English | Cymraeg

Trystan Edwards

Cydymaith

Pennaeth Ysgol Garth Olwg yw Trystan Edwards. Roedd yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Rhydywaun a chyn hynny wedi ymwneud â sawl rôl pan tra’n gweithio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae’n Arolygydd Cymheiriaid gydag Estyn ac yn aelod o grŵp rhanddeiliaid Cymwysterau Cymru a Chonsortiwm Canolbarth y De. Roedd Trystan yn gyn aelod o’r grŵp DDAG a oedd yn gyfrifol am lywio’r trefniadau Asesu ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn ystod y pandemig. Mae hefyd wedi bod yn rhan o’r grŵp wnaeth lunio rhaglen CPCP yn genedlaethol ac mae’n cyflwyno modiwl o’r cymhwyster hwn a chymwysterau arweinyddol eraill ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De. 

Mae Trystan yn angerddol am ddatblygu arweinyddiaeth o fewn y system addysg ac mae ei ymchwil gweithredol mwyaf diweddar wedi ffocysu ar waith Chris Hirst a phodlediadau ‘High Performance’ gan y cyflwynydd Jake Humphrey a’r Athro Damien Hughes. Mae hefyd yn ymroddedig iawn ac yn llais cryf i hyrwyddo a datblygu’r sector addysg cyfrwng Gymraeg gan fod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn greiddiol i’w werthoedd personol a phroffesiynol.  

Mae Trystan yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Eirian sy’n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a’u dau o blant sef Deio a Mared. Mae’n gwneud ei orau i gadw’n heini ac wedi rhedeg marathon Eryri a Ras yr Wyddfa yn y gorffennol. Mae’n aelod tocyn tymor o Glwb Pêl-droed Caerdydd a’r Wal Goch ac yn mwynhau mynychu’r gemau gyda’r teulu yn Stadiwm Caerdydd. 

Trystan Edwards

Cwrdd â Charfan 6

Gweld y Cyfan
Martin Evans

Cydymaith

Siân Ross

Cydymaith

Rhys Buckley

Cydymaith