Wedi bod yn aelod o Dim Arwain Ysgol y Preseli, Sir Benfro, yn flaenorol, mae Gareth bellach yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Bro Teifi; Ysgol 3-19 Cyfrwng Cymraeg pob-oed yn Llandysul, Ceredigion. Mae wedi dal y rôl honno ers Ebrill 2016. Ar hyn o bryd ac ers Ionawr 2022, mae’n gweithredu fel Pennaeth Dros-Dro yn yr ysgol.
Mae’n aelod a Fwrdd Strategol ac Atebolrwydd Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Aberystwyth ac, fel rhan o’r bartneriaeth hynny, yn Fentor Arweiniol ar glwstwr o ysgolion. Roedd yn gyn-aelod o weithgor Estyn/OECD yn gweithio ar ddatblygu offeryn hunan-werthuso a chynllunio gwelliant cenedlaethol sydd bellach wedi ei enwi yr Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella.
Mae’n aelod o Fforwm Ysgolion Pob-Oed Cymru, partneriaeth o ysgolion sy’n gweithio ar y cyd i wella eu dealltwriaeth o’r sector pob-oed yng Nghymru ac i rannu arfer dda mewn addysgeg ac arweinyddiaeth.
Mae’n byw yn Llangrannog, Gorllewin Cymru gyda’i wraig a thri o blant.