Ymunodd Meleri â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ym mis Medi 2023 ar ôl gweithio am ddeunaw mlynedd mewn ysgolion uwchradd yn addysgu Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith. Bu’n gyfrifol am arwain ar lythrennedd ysgol gyfan mewn ysgol uwchradd Cymraeg ei chyfrwng cyn mynd ymlaen i fod yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg yn yr ysgol honno. Bu’n mentora myfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso yn yr ysgol gan gynnig hyfforddiant ac arweiniad i’r myfyrwyr gyda ffocws ar y Gymraeg ac ar loywi iaith.
Gweithiodd Meleri fel Tiwtor Ymarfer gyda’r Brifysgol Agored yn cefnogi myfyrwyr ac athrawon dan hyfforddiant gan gyfrannu at broses sicrhau ansawdd y Brifysgol. Bu’n rhan o brosiect ‘Carlam Cymru’ gan E-sgol yn darparu a chynnig sesiynau adolygu ar gyfer dysgwyr TGAU a Safon Uwch Cymraeg.
Mae Meleri’n briod â Rob ac mae ganddyn nhw dri o blant, Noa, Cara a Steffan.