Emma Chivers yw’r Cynghorydd Arwain ar gyfer Gwaith Ieuenctid ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Bydd Emma yn gweithio gydag arweinwyr y sector gwaith ieuenctid i gynrychioli eu llais o fewn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a systemau addysg eraill. Bydd Emma hefyd yn gweithio gydag arweinwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid i ddarparu cefnogaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd arweinyddiaeth a hyrwyddo arfer da. Ar hyn o bryd, Emma yw’r hyfforddwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid ar gyfer Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru.
Mae gan Emma dros bum mlynedd ar hugain o brofiad mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned ac mae wedi ymrwymo i gynyddu canlyniadau i blant a phobl ifanc. Yn flaenorol, mae Emma wedi gweithio i Brifysgol De Cymru fel Rheolwr Academaidd Polisi Cymdeithasol, gan arwain timau academaidd mewn Polisi Cymdeithasol, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, a darpariaeth Blwyddyn Sylfaen. Roedd Emma hefyd yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, gydag angerdd am ddatblygu ymweliadau rhyngwladol i fyfyrwyr o fewn Kenya a Sudan i archwilio prosiectau gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae Emma yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn arbenigo mewn addysgu a dysgu.
Mae Emma hefyd yn Gadeirydd Youth Cymru, elusen gwaith ieuenctid cenedlaethol sy’n cefnogi gweithwyr ieuenctid ledled Cymru, gan ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc. Mae Emma hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, rhwydwaith o wneuthurwyr newid byd-eang, arloeswyr ac entrepreneuriaid i gyflawni newid cymdeithasol.
Yn ei hamser hamdden, mae Emma yn rhedwr a chorff-fyrddwr brwd ac yn ymgymryd â’i doethuriaeth broffesiynol mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.