Ymunodd Charlotte Thomas â’r Academi Arweinyddiaeth fel Rheolwr Cyfathrebu ym mis Awst 2020. Mae’n gweithio ar draws y sefydliad gan arwain ar yr holl gyfathrebiadau a marchnata print a digidol. Mae Charlotte wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu brand a hunaniaeth weledol yr Academi Arweinyddiaeth, gan weithredu hyn ar draws y sefydliad. Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn natblygiad y wefan newydd.
Mae Charlotte yn mwynhau gweithio gyda thîm yr Academi Arweinyddiaeth, creu ymgyrchoedd a dylunio graffeg, a dyfeisio ffyrdd newydd a chyffrous o rannu gwaith y sefydliad. Ei dyheadau ar gyfer yr Academi Arweinyddiaeth yw iddi ddod yn frand y gellir ei adnabod ar unwaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Mae Charlotte yn arbenigo mewn marchnata digidol a chyfathrebu ac mae ganddi Ddiploma Lefel 6 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM). Mae Charlotte hefyd yn Gydymaith gyda’r CIM. Mae ganddi radd BA (Anrh) o Brifysgol Caerdydd ac MA o Brifysgol Abertawe mewn Hanes Modern, sy’n canolbwyntio ar Hanes Cymdeithasol Cymru o’r 20fed ganrif. Ysbrydolodd ei chariad at hanes ei hangerdd dros adrodd straeon a chyfathrebu. Cyn hynny, bu Charlotte yn gweithio yn y sector celfyddydau gweledol a diwylliannol, gan weithio ledled Cymru a’r DU ar farchnata, cyfathrebu a datblygu cynulleidfaoedd.
Mae Charlotte yn byw yn Abertawe ac yn ystod ei hamser rhydd gellir dod o hyd iddi hi’n deifio sgwba dŵr agored, yn y DU a thramor. Digwyddodd ei phrofiad deifio mwyaf dramatig yn Varadero, Cuba lle cafodd gyfarfod anffodus â chorâl tân – math o bysgod jeli. Mae hi hefyd yn gweithio tuag at ei gwregys du wrth gic-focsio.