Mae Mark Isherwood yn gweithio’n agos gyda Chymdeithion yr Academi a thîm yr Academi Arweinyddiaeth i arwain y gwaith ar Gymeradwyo a Sicrhau Ansawdd, Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Datblygu Arweinyddiaeth Systemau. Mae ei ddyheadau ar gyfer dyfodol yr Academi Arweinyddiaeth yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y system addysg yng Nghymru i wella ansawdd, ystod a hygyrchedd y ddarpariaeth arweinyddiaeth. Mae Mark hefyd am feithrin yr amodau sydd eu hangen i ysbrydoli arweinwyr sy’n cyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Dechreuodd Mark ei yrfa fel athro Addysg Gorfforol yn Abertawe cyn symud ymlaen i weithio fel Rheolwr Academi gyda Chynghrair Rygbi Cymru. Ymgymrodd swyddi gyda SportTrain, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Lleol Merthyr a Dysgu Oedolion Cymru. Yn fwy diweddar, roedd yn Rheolwr Achredu ADY gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae ganddo brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid ac Ychwanegol Estyn ac roedd yn gyn-ddirprwy Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Sili.
Mae Mark yn briod â Hannah, athrawes ysgol gynradd ac mae ganddynt hwy dair merch Mary, Annie a Josie. Mae’n hoffi cadw’n heini ac yn iach, ac mae’n treulio ei amser yn rhedeg, chwarae rygbi cyffwrdd, syrffio a cherdded ei ddau gi; Woody y pug ac Alfie y cyfeirgi coch.