Pennaeth Ysgol Aberconwy yng Nghonwy yw Ian Gerrard. Yn flaenorol, roedd Ian yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Eirias yn Ffordd Colwyn rhwng 2008 a 2014.
Mae Ian wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar Grŵp Llywio’r Astudiaeth Ymchwil Cwnsela a chreu astudiaethau achos sy’n canolbwyntio ar Ddysgu Proffesiynol, Parhad Dysgu a Dysgu o Bell.
Fel Cydymaith mae Ian wedi gweithio fel Arweinydd Cydymaith Lles. Yn y rôl hon roedd Ian yn allweddol wrth gyhoeddi arolwg yr Academi Arweinyddiaeth, Lles Arweinwyr Ysgolion: Arolwg Cenedlaethol, ac mae’n chwarae rhan weithredol yn Pen-i-Ben, lle lles wythnosol yr Academi Arweinyddiaeth i benaethiaid. Mae Ian hefyd wedi rhannu ei fewnwelediadau a’i waith ar les gyda chydweithwyr yn Iwerddon a’r Alban yn y Blether Rhyngwladol cyntaf ym mis Tachwedd 2020. Ar hyn o bryd, mae Ian yn datblygu’r comisiwn gyda’i gyd-Cymdeithion yn garfan 2 ac yn mwynhau ymgysylltu â llunwyr polisi ac academyddion yn y broses hon.
Yn ei amser hamdden, mae Ian yn hoffi cerdded, dringo a bod yn yr awyr agored. Ei brif uchelgais mewn bywyd yw dechrau paragleidio!