Margaret Davies yw pennaeth Ysgol Arbennig Sant Christopher yn Wrecsam. Mae Ysgol Sant Christopher yn ysgol arbennig fawr a gynhelir ar gyfer plant a phobl ifanc 6-19 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae 285 o ddisgyblion ar y gofrestr ac fe’u cefnogir gan dîm staff mawr ac amrywiol sy’n cynnwys athrawon, staff cymorth, tiwtoriaid a therapyddion sydd wedi’i leoli ar y safle.
Mae Margaret wedi gweithio ar draws ystod o sectorau addysgol, cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Dechreuodd ei gyrfa yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a daeth yn bennaeth adran yn yr ysgol. Aeth ymlaen wedyn i arwain yr Uned Cyfeirio Disgyblion a’r Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad yng Ngheredigion. Mae Margaret hefyd wedi gweithio fel AEM, gan weithio ar draws ystod o sectorau gan gynnwys awdurdodau lleol, arbennig ac annibynnol. Cyn ei rôl bresennol, cafodd Margaret ei secondio i fod yn Arweinydd Trawsnewid ADY ar gyfer Gogledd Cymru gan gefnogi gweithredu Deddf ADY 2018.
Mae Margaret yn credu’n gryf mewn cydraddoldeb, cynhwysiant a lles ac mae wedi datblygu dull tîm i gefnogi’r elfennau hyn yn Ysgol Sant Christopher. Mae ganddi hanes da o ddatblygu staff ac mae ganddi strwythur arweinyddiaeth ddirprwyedig gryf ar draws yr ysgol.